Eitha chwithig, rwy'n cytuno'n llwyr. Drueni'n bod heb lwyddo i dagu'r
defnydd hyll yma yn y crud, fel petai. Mae 'mynchu' yn yr ystyr 'bod yn
bresennol, ymbresennoli', wedi ennill troedle mewn pob math o ddogfennau
swyddogol, gwaetha'r modd.
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County
Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia
Prys
Sent: 28 September 2011 09:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: mynychu cyfarfod / bod yn bresennol mewn cyfarfod
Yn ddiweddar cafodd aelod o'm teulu lythyr gan ysgolhaig disglair ym
maes y Gymraeg, yn ei wahodd i 'fynychu cyfarfod'. Tybed felly ydi cylch
defnydd y gair 'mynychu' wedi lledu erbyn hyn ac y dylem ni dderbyn
hynny? Ond gan fod 'mynych' yn air cyfarwydd a'i ystyr yn hysbys mae'n
taro'n chwithig. Bydda i fel arfer yn dod allan ohoni trwy hepgor y gair
yn gyfan gwbl e.e. 'invite to attend a meeting' - 'gwahodd i gyfarfod'.
Dewi Williams wrote:
> Helo Tim,
>
>
> "mynychu" mynd i rywle'n fynych, to frequent a place, "mynychu'r
> dafarn neu'r capel" dangos arferiad rheolaidd.
> "mynychu cyfarfodydd" os bydd rhywun yn gwneud hyn yn aml "bod yn
> bresennol mewn cyfarfod" - efallai'r ymweliad cyntaf, neu'r unig adeg
> yn y cyfarfod hwnnw
>
> Ond dw i'n gweld tueddiad i ddefnyddio "mynychu" ar gyfer "to attend"
> boed hyny'n digwydd yn fynych ai peidio.
>
> Dewi
>
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|