Byddwn yn tueddu i gytuno efo Carolyn o ran y gair 'hawliau'. Yn ol
Geiriadur Termau'r Gyfraith Prifysgol Bangor - 'mesur hawliau' yw 'bill
of rights' Mae'n debyg bod y Geiriadur hwnnw'n seiliedig ar waith y
darlithwyr cyfrwng Cymraeg a nhw sydd wedi cymeradwyo'r termau.
Mae'r gair 'Bill' yn gamarweiniol efallai oherwydd ei fod yn cyfeirio at
ddeddf felly byddwn yn defnyddio 'Deddf' yn hytrach na 'Mesur'.
Carolyn wrote:
> Dw i'n cofio Meg yn sôn am hyn dipyn yn ôl a bod Robyn Lewis yn ffafrio
> 'iawnderau'??? Dw i'n rhyw feddwl bod 'hawliau dynol' wedi ennill ei
> blwy'n raddol dros y blynyddoedd diwethaf a bod 'iawnderau' wedi dechrau
> cael ei ddefnyddio'n llai aml yn y cyd-destun yma.
>
>
>
> Carolyn
>
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Geraint
> Lovgreen
> *Anfonwyd/Sent:* 09 Awst 2011 12:49
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: UK Bill of Rights
>
>
>
> Ie, pam "Hawliau" yn lle "Iawnderau"? A pham "Deddf" am "Bill"?
>
>
>
> Oes yna rywun o TermCymru'n gweithio heddiw all roi ateb tybed?
>
> ----- Original Message -----
>
> *From:* Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
>
> *Sent:* Tuesday, August 09, 2011 12:29 PM
>
> *Subject:* Re: UK Bill of Rights
>
>
>
> Sbiwch hefyd ar "Rights" yn GyG.
>
>
>
> Mae GPC yn son llawer mwy am "iawnderau dinesig" ayb nag am
> "hawliau", a chaf yr argraff sydyn mai "equity" a "justice" yw
> "iawnder", tra bo "hawliau" yn golygu "entitlement". Mae llawer mwy
> o enghreifftiau o "iawnderau dynol" ar y We nag o "hawliau dynol".
> Eto, mae rhaid bod rhyw reswm pam nad oes yr un enghraifft o
> iawnder[au] ar TermCymru. Fauswn i ddim yn hoffi meddwl mai dim ond
> symleiddio'r iaith yw'r rheswm dros hyn, ond mae rhaid ei fod yn
> fwriadol.
>
>
>
> Os oes gan Bruce unrhyw beth i'w ychwanegu, ysgrifennaf eto, ond
> beth bynnag y defnyddiwch, mae'n annhebyg y byddwch yn newid defnydd
> cyffredinol!
>
>
>
> Ann
>
>
>
>
>
>
>
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf
> Of *Geraint Lovgreen
> *Sent:* 09 August 2011 12:08
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* UK Bill of Rights
>
> Yn ôl Geiriadur y Gyfraith RL - Mesur Iawnderau yw Bill of Rights
>
>
>
> Yn ôl TermCymru - mesur hawliau
>
>
>
> Ond yn ôl TC eto - British Bill of Rights = Deddf Hawliau Dynol
> Brydeinig
>
>
>
> Felly sut mae cyfieithu "Do we need a UK Bill of Rights"? (Mae UK yn
> ansoddeiriol yn fan hyn hyd y gwela i.)
>
>
>
> "Oes angen Mesur Iawnderau i'r Deyrnas Unedig"?
>
> "Oes angen Mesur Hawliau i'r Deyrnas Unedig"?
>
> "Oes angen Deddf Hawliau Dynol Brydeinig"?
>
> "Oes angen Deddf Hawliau Dynol i'r Deyrnas Unedig"?
>
>
>
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|