Fy ofn oedd y gallai rhywun feddwl mai 'identity' sydd dan sylw, ac mae
hynny'n rhywbeth gwahanol yn ôl y cwsmer! Felly 'personoldeb' aeth â'r dydd
- er mi fydd rhywun yn siwr o gwyno a dweud mai 'teipo' ydio ac mai
'presenoldeb y dylai o fod!!! 'Can't win' fel mae nhw'n deud. Gobeithio na
ddo i ar draws y gair byth eto!!
Diolch i bawb ohonoch am eich cymorth!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 10 August 2011 18:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Personhood
O'r diffiniad sydd wedi'i roi, faswn i'n mynd am 'hunaniaeth'.
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 10, 2011 4:43 PM
Subject: Re: Personhood
>dwi'n gallu dychmygu Ann yn sgrechian arnai rwan!
Dim yn siwr am Ann, sy'n derbyn bod rhai pethau'n ennill eu lle, ond byddai
Bruce yn dweud, mae'n siwr, mai "bod yn dad neu'n fam" yn ddigon. (rhaid imi
beidio a siarad drosto'n rhy aml!)
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 10 August 2011 15:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Personhood
Ond a yw 'Personhood' ru'n peth â 'Selfhood'? Does gen i ddim syniad, rhaid
i mi fod yn onest. Fe wnes i hanner meddwl defnyddio 'bod yn berson' gan mod
i wedi gweld 'bod yn rhiant' am 'parenthood' yn rhywle (dwi'n gallu dychmygu
Ann yn sgrechian arnai rwan!).
Ond o ddifrif, dwi'n cytuno'n llwyr efo chi ynghylch gorddefnyddio'r gair
'person', ond os oes unrhyw enghraifft lle y gallech chi gyfiawnhau gwneud
hynny, mi faswn ni'n dweud mai dyma hi!
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 10 August 2011 15:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Personhood
Oni fyddai hynny'n ymwneud a thri person y Drindod?
Gwelaf fod "selfhood" yn GyrA, ac mai "hunan, hunaniaeth" yw'r cynnig.
Gwn fod Bruce yn *casau* gorddefnydd y gair "person", gan ddweud mai tri
defnydd yn unig y byddai fo'n eu cymeradwyo, sef:
i) wrth drafod y Drindod, person Crist ayb
ii) wrth drafod gramadeg e.e. yr ail berson lluosog
iii) fel gair anffurfiol ar gyfer ficer.
Yn wir, mae gorddefnydd o'r gair, a hynny, 'rwy'n amau, am ei fod yn air y
gall dysgwyr ei ddefnyddio heb orfod dysgu rhywbeth newydd(fel mae "partner"
yn disodli "cymar"). Gwelais heddiw rywbeth yn Nhestunau'r Eisteddfod y
flwyddyn nesaf yn son am "unrhyw berson" - beth sy'n bod ar "unrhyw un"?
Nid yw hyn yn berthnasol (heblaw'r frawddeg gyntaf), nac yn gymorth ichi,
ond mae rhaid imi gael rhefru ychydig.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 10 August 2011 15:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Personhood
Personoldeb? Mae'r term personoldeb yn cael ei defynyddio ym maes
diwinyddiaeth.
On 10/08/2011, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:
> Unrhyw syniadau os gwelwch yn dda?
>
> Dyma'r frawddeg erchyll:
>
> The term 'Personhood' arises from philosophy of dementia care to offer an
> account of self, as something not maintained solely by cognitive ability,
> but instead something that we partly construct socially through
> relationships with people and things.
>
>
>
> Gan ddiolch ymlaen llaw am unrhyw lygedyn o oleuni.
>
>
>
> Rhian
>
>
|