Cais gan un o'r ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd yw hwn.
Ysgol cyfrwng Saesneg yw hi, a'r plant yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ieithyddol a diwylliannol.
Y neges yw bod maths yn perthyn i bawb; bydd adran yn llawlyfrau'r plant yn dweud "We are a numbernation"; a bydd y pennawd yn cael ei ddefnyddio i amlygu maths fel thema drwy'r ysgol i gyd.
Ond mae'r ysgol yn gweithio hefyd i ledaenu'r Gymraeg ar draws yr ysgol, ac felly mae angen rhywbeth cyfatebol.
'Pobol y Rhif' medde fi, ond mae'n rhaid bod rhywbeth gwell...
|