Coffi'n beth da iawn!
'Ystafell Dim Hwyl' - ddim yn argoeli'n rhy dda, nac'di?!
On 13 Jul 2011, at 11:34, Ceri Wyn Williams wrote:
> Oh dwi'n teimlo'n well ar ol coffi!
>
> Rwyf newydd weld yr athrawes fydd yn gyfrifol am yr uned newydd - ei chynnig hi yw 'Ystafell Dim Hwyl'?! Ond dwi meddwl y buasai'n well defnyddio Uned Ymgysylltu!
>
> Diolch yn fawr iawn Sioned.
>
> Ceri :-)
> Sent using BlackBerry® from Orange
>
> -----Original Message-----
> From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> Date: Wed, 13 Jul 2011 10:58:12
> To: <[log in to unmask]>
> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> Subject: Re: Engage Base
>
> A, reit. O'r nefoedd!
>
> Fyddai 'uned ymgysylltu' yn addas? .... ond os ydyn nhw eisiau colli'r syniad PRU, falla ddim.
>
>
> On 13 Jul 2011, at 10:47, Ceri Wyn Williams wrote:
>
>> Haia Sioned
>>
>> O beth rwy’n ei ddeall uned newydd yn yr ysgol yw hon fydd yn darparu addysg amgen i ddisgyblion sydd ddim yn gallu mynd i wersi prif ffrwd / llawn amser. Rwy’n amau fod yr ysgol yn mynd i ddefnyddio’r teitl ‘Engage Base’ yn lle’r ‘Pupil Referral Unit’ - am ei fod yn swnio’n fwy crand efallai?! Pam maent yn dewis pethau sydd mor anodd eu cyfieithu?!
>>
>> Ceri
>>
>> Sent using BlackBerry® from Orange
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
>> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
>> Date: Wed, 13 Jul 2011 10:28:29
>> To: <[log in to unmask]>
>> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
>> Subject: Re: Engage Base
>>
>> Bore da Ceri
>>
>> Sut uned ydi hi? Dysgu grwp penodol o blant, maes penodol yn y cwricwlwm? Fedra i ddim cael hyd i unrhyw gyfeiriad ar y we, a 'rioed wedi clywed y term o'r blaen (ond mae'n siwr y bydd angen i minnau ei gyfieithu ryw dro, gan fod pethau fel hyn yn tueddu i ehangu!)
>>
>>
>> Sioned
>>
>>
>>
>> On 13 Jul 2011, at 10:21, Ceri Wyn Williams wrote:
>>
>>> Bore da pawb
>>>
>>> Rwyf wedi bod yn pendroni uwchben hwn ers sbel a ddim yn gallu meddwl am derm addas. Mae ‘Engage Base’ yn cyfeirio at uned yn yr ysgol. Gofynnwyd i mi gyfieithu’r swydd deitlau canlynol:
>>>
>>> Engage Base Lead Teacher
>>>
>>> Engage Base Teaching Assistant
>>>
>>> Buaswn yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau.
>>>
>>> Diolch yn fawr.
>>>
>>> Ceri
>>>
>>> Sent using BlackBerry® from Orange
|