Diolch Judith. Dw i wedi defnyddio tarten Tatin am y tro, ond bydd cyfle i newid hyn yn nes ymlaen os bydd angen.
Gwenda
On Mon, 25 Jul 2011 13:08:12 +0100 , Judith Kaufmann <[log in to unmask]> wrote:
>Mae tarten afal Ffrengig yn agored efo tafelloedd tenau o afalau wedi eu
>gosod mewn cylchoedd del ac yn frown neis ar yr ymylon ar ôl pobi.
>
>Mewn tarte Tatin, rhoddir tameidiau mawr o afal mewn rhyw fath o garamel ar
>toes ar eu pennau; maer cwbl yn cael ei droi ar ôl pobi. Fyddwn i ddim yn
>galw honno yn darten afal Ffrengig. Y nodwedd arbennig ydir troi ar ôl
>pobi; ges i darten tomato dull Tatin yn ddiweddar, ac maen bosib gwneud
>hynny efo pob mathau o bethau eraill.
>
>Beth am darten falau dull Tatin?
>
>Judith
>
>
>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwenda Lloyd
>Wallace
>Anfonwyd/Sent: 25 July 2011 12:37
>At/To: [log in to unmask]
>Pwnc/Subject: Re: ATB: hash browns a tarte Tatin
>
>Onid ydy hi'n bwysig cadw'r enw Tatin gan mai Stephanie Tatin greodd y
>rysait?
>
>On Mon, 25 Jul 2011 12:13:34 +0100 , Ann Corkett <[log in to unmask]>
>wrote:
>>... neu "tarten afal Ffrengig"?
>>Ann
>>
>>
>>-----Original Message-----
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenda Lloyd
>>Wallace
>>Sent: 25 July 2011 12:09
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: Re: ATB: hash browns a tarte Tatin
>>
>>Dw i'n cytuno'n llwyr Matthew. Ond 'stwnsh corn-biff' a gynigir yn GPC am
>>corned beef hash, felly 'stwnsh ... ' ddylai hash browns fod ma'n debyg,
>ond
>>ma 'stwnsh tatws' yn awgrymu tatws wedi'u stwnshio a dim mwy. Beth am
>>'stwnsh ffrei'??
>>
>>Ac a fydde fo'n dderbyniol i mi roi tarten Tatin felly?
>>
>>Mi fydd y Saesneg ar gael ochr yn ochr yn yr achos yma.
>>
>>Diolch am eich cymorth.
>>
>>Mi arhosa i tan 1.00 ar gyfer eich barn!
>>
>>Gwenda
>>
>>
>>On Mon, 25 Jul 2011 11:32:00 +0100 , Matthew Clubb <[log in to unmask]> wrote:
>>>Mae i'w weld yn drueni peidio â chynnig rhywbeth Cymraeg - 'teishenni
>>>tatws', 'patis tatws', hyd yn oed 'hash(au) tato'.
>>>
>>>O safbwynt ymarferol, rwy'n bwrw taw bwydlenni dwyieithog fydd y rhain -
>>>hynny yw, os bydd y darllenydd Cymraeg yn drysu'n llwyr o weld term
>>>anghyfarwydd, fe fydd y llygad yn mynd i'r Saesneg ... "A, dyna beth yw
>>>'hash brown' yn Gymraeg felly"
>>>
>>>O safbwynt 'gwleidyddiaeth' iaith, hynny yw statws a pharhad yr iaith,
>onid
>>>yw hi'n bwysig mynd ati - lle bynnag y mae hi'n bosib - i fathu geiriau
>>>Cymraeg newydd neu gymathu geiriau o ieithoedd eraill i orgraff a
>morffoleg
>>>y Gymraeg?
>>>
>>>
>>>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwenda
>Lloyd
>>>Wallace
>>>Anfonwyd/Sent: 25 Gorffennaf 2011 10:17
>>>At/To: [log in to unmask]
>>>Pwnc/Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>>>
>>>Yn cytuno efo ti Sian. Felly, cadw at y Saesneg wna i ar gyfer y ddau
>derm,
>>>oni bai fod yna awgrymiadau gwell yn cyrraedd cyn 12.00 heddiw!
>>>
>>>Diolch yn fawr i bawb am eu cynigion.
>>>
>>>Gwenda
>>>
>>>On Mon, 25 Jul 2011 09:38:39 +0100 , Sian Roberts
>>><[log in to unmask]> wrote:
>>>>Ydi 'teisen gri datws' yn awgrymu bod 'na gyrens ynddi hi?!
>>>>Hefyd, yn ôl y rysetiau rwy wedi'u gweld ar y we, cael eu ffrio mae
>>>>hash browns.
>>>>A beth am bobol y de?
>>>>
>>>>Yn ôl a wela i hefyd, mae "patis tatws" yn tueddu i gael eu gwneud o
>>>>sbarion tatws wedi'u stwnsho a chynhwysion eraill fel winwns, wyau,
>>>>caws etc
>>>>
>>>>Wedi dweud hynny, does gen i ddim awgrym gwell!
>>>>
>>>>Siân
>>>>
>>>>
>>>>On 25 Gorff 2011, at 09:03, Meinir Pierce Jones wrote:
>>>>
>>>>> Mae 'teisen gri datws' yn ddisgrifiad iawn o rywbeth fel hyn ac yn
>>>>> swnio'n Gymreig.
>>>>>
>>>>>
>>>>> ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett"
>>>>> <[log in to unmask]>
>>>>> To: <[log in to unmask]>
>>>>> Sent: Saturday, July 23, 2011 12:46 PM
>>>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>>>>>
>>>>>
>>>>>> Byddai Bruce yn fodlon ar adael "hash browns" mewn teip italig, ond
>>>>>> mae'n ymddangos yn biti imi; dim ond "hashed brown potatoes" yw'r
>>>>>> enw llawn wedi'r cyfan. Cyhyd ag y gallaf weld, maen nhw'r un peth
>>>>>> a ro"sti, ond bod un rosti'n llenwi'r badell, ac mae pethau tebyg
>>>>>> iawn mewn gwledydd eraill, ond yn aml gydag wy a blawd hefyd (gw.
>>>>>> dan Wikipedia "potato
>>>>>> pancakes": See
>>>>>> Also). Yn ol "Geirfa'r Gegin" mae blawd mewn teisennau tatws, ond
>>>>>> oni fyddai "patis tatws" yn gwneud y tro? (Biti nad oes modd cael
>>>>>> "patis tatis"
>>>>>> neu "patws tatws"!).
>>>>>>
>>>>>> Yn mwydro eto,
>>>>>>
>>>>>> Ann
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> -----Original Message-----
>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>>>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>>>> Sent: 23 July 2011 08:09
>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>> Subject: Re: hash browns a tarte Tatin
>>>>>>
>>>>>> Diolch Anna - dw i'n cytuno.
>>>>>>
>>>>>> Gwenda
>>>>>>
>>>>>> On Fri, 22 Jul 2011 17:36:54 +0200 , anna gruffydd
>>>>>> <[log in to unmask]>
>>>>>> wrote:
>>>>>>> Mi faswn i'n gadael tarte Tatin - mae bwydlenni mor arswydus i ni i
>>>>>>> gyd, lleia o gymhethdoda gora oll - ac mi faswn i'n dadla bod na le
>>>>>>> dros adael hash browns hefyd.
>>>>>>>
>>>>>>> Anna
>>>>>>>
>>>>>>> 2011/7/22 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]>
>>>>>>>
>>>>>>>> Ia, bwydlen!
>>>>>>>>
>>>>>>>> Unrhyw gynigion am y rhain os g. yn dda? Ddim yn siwr a ddylwn
>>>>>>>> adael
>>>>>> tarte
>>>>>>>> Tatin fel ag y mae (mewn teip italig) neu ddefnyddio tarten Tatin.
>>>>>>>>
>>>>>>>> Diolch yn fawr.
>>>>>>>>
>>>>>>>> Gwenda
>>>>>>>>
>>>>>>>>
>>>>>>>> --
>>>>>>>>
>>>>>>>>
>>>>>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>>>>>>
>>>>>>>> Cyfieithydd/Translator
>>>>>>>>
>>>>>>>> Troed-y-rhiw
>>>>>>>>
>>>>>>>> Cefn-llwyd
>>>>>>>>
>>>>>>>> Aberystwyth
>>>>>>>>
>>>>>>>> Ceredigion
>>>>>>>>
>>>>>>>> Cymru/Wales
>>>>>>>>
>>>>>>>> SY23 3HX
>>>>>>>>
>>>>>>>>
>>>>>>>>
>>>>>>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> --
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>>>> Cyfieithydd/Translator
>>>>>> Troed-y-rhiw
>>>>>> Cefn-llwyd
>>>>>> Aberystwyth
>>>>>> Ceredigion
>>>>>> Cymru/Wales
>>>>>> SY23 3HX
>>>>>>
>>>>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>>
>>>
>>>
>>>--
>>>
>>>
>>>Gwenda Lloyd Wallace
>>>Cyfieithydd/Translator
>>>Troed-y-rhiw
>>>Cefn-llwyd
>>>Aberystwyth
>>>Ceredigion
>>>Cymru/Wales
>>>SY23 3HX
>>>
>>>Ffon/Tel: 01970 880817
>>
>>
>>
>>--
>>
>>
>>Gwenda Lloyd Wallace
>>Cyfieithydd/Translator
>>Troed-y-rhiw
>>Cefn-llwyd
>>Aberystwyth
>>Ceredigion
>>Cymru/Wales
>>SY23 3HX
>>
>>Ffon/Tel: 01970 880817
>
>
>
>--
>
>
>Gwenda Lloyd Wallace
>Cyfieithydd/Translator
>Troed-y-rhiw
>Cefn-llwyd
>Aberystwyth
>Ceredigion
>Cymru/Wales
>SY23 3HX
>
>Ffon/Tel: 01970 880817
--
Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Troed-y-rhiw
Cefn-llwyd
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru/Wales
SY23 3HX
Ffon/Tel: 01970 880817
|