wel dwi'n falch o ddarllen hyn - roeddwn yn meddwl mai fi oedd yn methu gweld yr enghreifftiau!
On 9 Jun 2011, at 16:22, Roberts, Nia wrote:
> Nac oes nac o dan 'prawf'!
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
> Sent: 09 June 2011 16:09
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
>
> rhyfedd - dan 'lleiafaint, lleiafmaint' mae'n deud "pâr lleiafaint - gweler
> dan pâr" - ond does dim sôn am y gair o dan "pâr"..
>
> ----- Original Message -----
> From: "Mark Nodine" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, June 09, 2011 3:35 PM
> Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
>
>
> On 06/09/2011 08:07 AM, Roberts, Nia wrote:
>> Diolch Sylvia - roeddwn i wedi ystyried lleiafsymiol/lleiaf? Ar ôl gweld
>> 'lleiafaint' gan mod i'n deall mai 'ffonem' yn unig oedd yn newid.
>> 'Lleiafaint' oedd yr unig enghraifft i mi weld ar Google - mae'n bosib bod
>> mwy, ond dyw Google a fi dim yn ffrindiau mawr!! (A'm helpo!)
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia
>> Prys
>> Sent: 09 June 2011 13:34
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
>>
>> Roberts, Nia wrote:
>>> Rwy wedi gweld enghraifft o 'parau lleiafaint' ar Google - ai dyma'r
>>> gair arferedig yn y maes - therapi lleferydd, datblygiad lleferydd plant
>>> (neu ddiffyg) etc?
>>>
>>> Diolch.
>>>
>> Newydd weld y neges hon, Nia. Mae'n ddigon posib mai parau lleiafaint
>> yw'r gair swyddogol. Fedra i ddim cofio beth roeddwn i'n arfer ei
>> ddefnyddio ym maes ieithyddiaeth. Dw i yn y gwaith felly does gen i ddim
>> copi o lyfr ieithyddiaeth Dai Thorne wrth law.
>>
>
> Mae 'pa^r lleiafaint' i'w weld yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.
>
> --Mark
|