Newydd edrych yn llyfr Dai Thorne, Cyflwyniad i Astudio'r Iaith Gymraeg.
T138.
Y ffordd hwylusaf o brofi bod sain yn arwyddocaol mewn iaith, hynny yw
yn gallu peri newid ystyr, yw trwy gyfnewid lleiafaint, sef darganfod
parau cyferbyniol, newid un sain ar y tro mewn olyniad seinegol fel yn
y cyfresi isod yn y Gymraeg:
gwag, gwas, gwal etc.
Mewn man arall mae'r awdur yn cyfeirio atynt fel parau lleiafaint.
AR ol darllen y paragraff dw i'n siwr braidd mod i wedi defnyddio
'parau cyferbyniol' fel 'minimal pairs' oherwydd fy mod i wedi meddwl
y byddai'r myfyrwyr yn fwy tebygol o ddeall y cysyniad na 'parau
lleiafaint'.
Ddim yn gallu rhoi fy llaw ar Ieithyddiaeth gan T Arwyn Watkins. Mae
yma'n rhywle!
Quoting Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>:
> wel dwi'n falch o ddarllen hyn - roeddwn yn meddwl mai fi oedd yn
> methu gweld yr enghreifftiau!
>
>
> On 9 Jun 2011, at 16:22, Roberts, Nia wrote:
>
>> Nac oes nac o dan 'prawf'!
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
>> Of Geraint Lovgreen
>> Sent: 09 June 2011 16:09
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
>>
>> rhyfedd - dan 'lleiafaint, lleiafmaint' mae'n deud "pâr lleiafaint - gweler
>> dan pâr" - ond does dim sôn am y gair o dan "pâr"..
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: "Mark Nodine" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, June 09, 2011 3:35 PM
>> Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
>>
>>
>> On 06/09/2011 08:07 AM, Roberts, Nia wrote:
>>> Diolch Sylvia - roeddwn i wedi ystyried lleiafsymiol/lleiaf? Ar ôl gweld
>>> 'lleiafaint' gan mod i'n deall mai 'ffonem' yn unig oedd yn newid.
>>> 'Lleiafaint' oedd yr unig enghraifft i mi weld ar Google - mae'n bosib bod
>>> mwy, ond dyw Google a fi dim yn ffrindiau mawr!! (A'm helpo!)
>>>
>>> -----Original Message-----
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia
>>> Prys
>>> Sent: 09 June 2011 13:34
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
>>>
>>> Roberts, Nia wrote:
>>>> Rwy wedi gweld enghraifft o 'parau lleiafaint' ar Google - ai dyma'r
>>>> gair arferedig yn y maes - therapi lleferydd, datblygiad lleferydd plant
>>>> (neu ddiffyg) etc?
>>>>
>>>> Diolch.
>>>>
>>> Newydd weld y neges hon, Nia. Mae'n ddigon posib mai parau lleiafaint
>>> yw'r gair swyddogol. Fedra i ddim cofio beth roeddwn i'n arfer ei
>>> ddefnyddio ym maes ieithyddiaeth. Dw i yn y gwaith felly does gen i ddim
>>> copi o lyfr ieithyddiaeth Dai Thorne wrth law.
>>>
>>
>> Mae 'pa^r lleiafaint' i'w weld yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.
>>
>> --Mark
>
----------------------------------------------------------------
This message was sent using IMP, the Internet Messaging Program.
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University
email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|