On Jun 21, 2011, Eldred Bet wrote:
>
> Arwydd ar gyfer drws sydd dan sylw, a mae rhywun wedi dweud mai ystafell
> llond switsys yw'r Hub Room!?.
Erioed wedi clywed am 'hub room' - ydi e'n rhywbeth americanaidd?
'Server room' sy'n fwy cyfarwydd neu 'comms room'. Mewn adeilad mawr
mae angen llefydd i gadw offer sy'n rhyng-gysylltu rhwydweithiau ond
mae rheiny fwy fel 'cypyrddau' na stafelloedd.
Ystafell beiriannau ydi nhw beth bynnag, nid ystafelloedd rheoli.
Ydi 'Ystafell offer TG' yn rhy hir? Neu 'Ystafell TG'. Mewn adeilad
mawr fase angen nifer o ystafelloedd beiriannau, ar bob llawr, felly
mi fyddai rhif yr ystafell yn bwysicach na'r teitl!
|