Mae 5 enghraifft o "aeroponeg" (efo 'e' yn hytrach nag 'i' ar y diwedd) yn ymddangos o chwilio Google, yn cynnwys cwpl o erthyglau ar y pwnc ....
Mae 'offer aeroponig' yn swnio'n iawn i mi?
Sioned
On 4 May 2011, at 12:33, Meinir Thomas wrote:
> Prynhawn da,
>
> Oes unrhyw un yn gwybod beth yw 'aeroponic' yn y Gymraeg? Cael fy nhemtio i roi 'aeroponig' neu 'eroponig', ond wi'n methu dod o hyd i unrhyw enghreifftiau wrth ddefnyddio Google.
>
> Y frawddeg gyfan yw:
>
> This was a significant drugs operation with sophisticated hydroponic and airoponic equipment being used for the commercial cultivation of skunk cannabis.
>
> Rwy'n cymryd mai 'aeroponic' sy fod nid 'airoponic'.
>
> Diolch ymlaen llaw,
>
> Meinir
|