Ond, er mawr syndod, dyw Apple ddim wedi llwyddo i hawlio "Apps" fel gair* - mae digonedd o "Apps" Android ar gael.
Claire
* Welsoch chi'r stori yn y Daily Mash am Apple yn mynnu hawlfraint ar holl lythrennau unigol y wyddor? Digri iawn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 12 April 2011 16:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: apiau / apps
Y ddadl yw ydy 'apps' yn wahanol i 'applications' nid 'programs'.
Dylanwad cwmni *App*le a'i "*App* Store" sydd y tu ol i hyn oll mae'n
debyg - yn hytrach nag unrhyw wahaniaeth go iawn rhwng cymhwysiadau
bach ar gyfer ffonau a'u cyfeillion mwy ar y cyfrifiaduron mwy sy'n
eistedd ar ddesgiau ac arffedion pobl.
2011/4/12 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Dwi'n amau bod rhaid inni dderbyn bellach bod apps yn wahanol i raglenni
> (programs) ac felly bod yn rhaid defnyddio apiau.
>
> Gyda llaw, dwi'n meddwl mai apiaid fyddai mwy nag un person o'r enw Ap,
> felly does na ddim dryswch ;-)
>
> ----- Original Message -----
> From: Claire Richards
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, April 12, 2011 3:54 PM
> Subject: Re: apiau / apps
>
> O ran yr hyn mae pobl eraill yn defnyddio, ar Facebook yn Gymraeg ceir “Apps
> Arall” (ŵps!) o dan Cyfrif > Hysbysiadau (yn y rhestr ar yr ochr dde) a
> “Rhaglenni” o dan ‘Gosodiadau Preifatrwydd’ (gwaelod, ochr chwith).
>
>
>
> Claire
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
> Sent: 12 April 2011 15:43
> To: [log in to unmask]
> Subject: apiau / apps
>
>
>
> Mae rhywun wedi cyfieithu darn yn sôn am 'mobile apps' yma fel 'apiau
> symudol' - fe wnaeth e ymgynghori â mi cyn anfon y gwaith ac doeddwn i ddim
> yn gweld dim byd o'i le ar ei 'ap' a'i 'apiau'. Ond ces i alwad ffôn gan
> y cwsmer wedyn yn dweud bod 'y siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' wedi cwyno bod
> hynny'n anghywir oherwydd bod ystyr arall i 'ap'.
>
>
>
> A gadael y cysyniad rhyfedd na all un gair fod â mwy nag un ystyr am eiliad
> (a hefyd o dan ba amgylchiadau yn union y byddai rhywun yn drysu rhwng ap
> offer symudol a, dyweder, Dafydd ap Gwilym), ife dim ond fi sy'n teimlo ei
> bod hi'n hen bryd symud gyda'r oes a thynnu'r gair i mewn i'r Gymraeg yn
> iawn? ap / apiau.
>
>
>
> Diolch am unrhyw sylwadau.
|