Matthew Clubb 'sgrifennodd
> Mae rhywun wedi cyfieithu darn yn s?n am 'mobile apps' yma fel 'apiau
> symudol' - fe wnaeth e ymgynghori ? mi cyn anfon y gwaith ac doeddwn i ddim
> yn gweld dim byd o'i le ar ei 'ap' a'i 'apiau'. Ond ces i alwad ff?n gan y
> cwsmer wedyn yn dweud bod 'y siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' wedi cwyno bod
> hynny'n anghywir oherwydd bod ystyr arall i 'ap'.
Os ydi pobl am ddefnyddio Ap yn lle App mae'n mynd i fod yn gythreulig
o anodd i ddod o hyd i wybodaeth amdanynt ar Google, gan fod 'ap'
yn air cyffredin mewn testunau Cymraeg ond fod 'AP' hefyd yn air mor
fyr sydd a ystyron eraill yn y byd technolegol.
Mae 'Cymraeg' ei hun yn air sy'n ymddangos mewn llawer o dudalennau
gwe y dyddiau hun oherwydd Google Translate a chyfieithu awtomatig
o wefannau saesneg. Mae 'App' yn air unigryw gyda ystyr pendant ac
adnabyddus felly mae'n haws clymu chwiliadau iddo.
|