> 'Gee Ceffyl Bach' fuo fo 'rioed a dyna fydd o hefyd oni bai i rai
> cyfieithwyr twp di-ddiwylliant gael eu ffordd eu hunain.
Ond, dyma'r broblem, nid oedd yn 'Gee Ceffyl Bach' i bawb erioed, dw i
wedi holi rhai o'r mamau yn iard ysgol fy mab, ac roedd dwy'n dweud
'Gee Geffyl Bach' ac un yn dweud 'Gee Ceffyl Bach'. Nid mater o
'gyfieithwyr' twp di-ddiwylliant yn cael eu ffordd eu hun yw hyn ond
mater o ddwy fersiwn o'r hwiangerdd a'r syndod o ddarganfod bod y
fersiynau hynny'n bod.
> Os mai criw fel hyn sydd yn y gymdeithas, wna i ddim ymuno eto.
Nid yw'r drafodaeth hon yn ddim byd i ymwneud a'r Gymdeithas, nid yw
pawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth yn aelodau o'r Gymdeithas. Nid
yw 'Welsh Termau Cymraeg' yn cael ei redeg gan y Gymdeithas.
Muiris
|