Wel, fel tad i grwt pump oed, dw i ddim yn gwybod pa mor ddealladwy
fyddai hanner geirfa'r Gymraeg iddo, a pan fydd yn gofyn imi 'Dadi,
beth yw ystyr X' dw i'n dweud wrtho a dyna'r unig ffordd o sicrhau bod
plant Cymraeg yn dod i wybod geiriau Cymraeg, eu defnyddio! Felly, dw
i'n mynd i bleidleisio o blaid 'Ballasg', a dw i'n mynnu bod fy mab yn
defnyddio geiriau Cymraeg bob tro.
Dw i ddim yn gweld dim rheswm dros 'symleiddio' iaith (sef Seisnigo gan amlaf)
Muiris
2011/3/16 CATRIN ALUN <[log in to unmask]>:
> Dwi'n gwybod mai 'ballasg' ydy'r gair go iawn, ond pa mor ddealladwy ydy'r
> gair yma i blant?
> Dwi'n cyfieithu rhywbeth i blant ag anghenion arbennig, a 'porcupine' ydy'r
> ateb i jôc. A bod yn onest, faswn i ddim yn nabod y gair 'ballasg' - beth
> yw'ch barn chi am ddefnyddio 'porciwpein' neu rywbeth tebyg?!
> Catrin
> (Fyddai draenog ddim yn gweithio gan fod lluniau'n cyd-fynd â'r stori! - er
> y byddai'n ateb llawn cystal i'r jôc)
|