Gwaith ditectif yn hytrach na chyfieithu sy gen i heddiw.
Mewn darn Saesneg sy gen i, mae yna ddisgrifiadau o'r Arglwydd Rhys sy'n dod "o'r ddeuddegfed ganrif" meddir. Ond cyfieithiadau Saesneg yw'r rhain, ac mae arna i angen y fersiwn Cymraeg.
Dyma nhw:
excellent protector
defender or the greatness of Deheubarth
Mae'n debyg eu bod yn dod o waith Cynddelw Brydydd Mawr, rhif 9, llinell 37 (yn ôl Bywgraffiadur Rhydychen ar-lein); does gen i ddim copi fy hunan, ac i geisio arbed trip i'r llyfrgell, dyma droi atoch chi garedigion y cylch.
All rhywun helpu plis?
|