Rhian Jones wrote:
>
> Mwy o broblemau meddygol! Beth ydi'r gair gorau i'w ddefnyddio am
> 'flutter' yn y cyd-destun yma? ('atrial flutter' - lle mae'r galon yn
> curo'n gyflym ond yn rheolaidd) Mae Cysgeir yn cynnig 'dychlamiad
> atriol' ('atrïaidd' ydi'r ffurf sy'n cael ei defnyddio yn GyrA), neu mae
> 'dirgryniad' i'w weld dan 'flutter' yn GyrA ac yn Cysgeir -
> 'dirgryniad atrïaidd'?
>
> Diolch
> Rhian
Rhian,
Dro'n ol bu'n rhaid i mi gyfieithu cyfres o sleidiau PowerPoint ar
gyflyrau'r galon a chododd yr ymadrodd atrial fibrillation sydd yn ol
Gwgl yn golygu'r un peth ag atrial flutter. Ffibriliad atrïaidd oedd y
term a ddefnyddiais i.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|