Gall, gall y Gymraeg fod yn "gymhleth": ond nid mwy nag unrhyw iaith arall. Y mae'n "gymhleth", gan rai, i'r graddau y mae'n wahanol i iaith sy'n fwy cyfarwydd iddynt: Saesneg, e.e. Yr unig ffordd heibio i hynny yw ymgyfarwyddo a Chymraeg gloyw, ac ymarfer. (Maddeuer y diffyg acen ar yr "a").
Os gwyddoch am rai sy'n rhy ofnus i fentro i'r Fforwm, perwch iddynt ymwroli, a rhoi cynnig arni: wnaiff neb mo'u brathu nhw hyd waed, a gallem oll fod ar ein helw.
|