Clywch, clywch!
Dwinne'n gwbod am bobl sydd ddim yn cysylltu efo'r cylch am eu bod nhw ofn
gwneud camgymeriad gramadegol.
Ffon symudol: 07900061784
----- Original Message -----
From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 13, 2011 11:20 AM
Subject: Re: Anrhag ben-blwydd
Yn bersonol, dwi ddim yn teimlo ei bod hi'n briodol cywiro iaith pobl mewn
fforwm gyhoeddus fel hyn - heblaw eich bod yn adnabod eich gilydd yn
arbennig o dda wrth gwrs! Os ydy aelodau'r cylch yn mynnu cywiro ei gilydd,
yna byddwch yn sensitif i deimladau pobl da chi! Mae na FFORDD o ddweud
pethau, ac weithiau gall tôn ambell e-bost fod braidd yn anffodus ac yn
feirniadol yn hytrach nag yn adeiladol. Helpu ein gilydd yw'r nod, does
bosibl!
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
Sent: 13 January 2011 11:08
To: [log in to unmask]
Subject: Anrhag ben-blwydd
Ar lafar neu ar ddu a gwyn, dylem geisio'n gorau: iaith yw ein ffon fara ni,
ac os na allwn ninnau gynnal safon, a'n helpo ni, ac a helpo'r rhai yr ydym
yn eu gwasanaethu! Parthed aelodau newydd, dywedwn eto na ddylai’r sawl sy'n
ofni beirniadaeth deg fentro gofyn cyflog am wneud y gwaith. Wir, yr ydym
fel petaem ni'n esgusodi Cymraeg gwael lle nad esgusodem Saesneg gwael,
oherwydd bod Cymraeg cymaint o bobl cyn saled. Nid llacio'r safon yw'r ateb,
ond hyrwyddo defnyddio Cymraeg rhywiog, pob cyfle.
Am y ddadl "Dwi'm yn defnyddio 'ynteu', felly mae wedi darfod amdano", mae
lle i ddiolch nad unigolion sy'n pennu tynged geiriau. Gwyn fy myd pe gallwn
innau wahardd defnyddio llediaith tebyg i "marw allan", chwedl gohebydd
arall ar y pwnc hwn.
|