"Ydy hi wir yn ddefnyddiol cywiro iaith negeseuon i'r cylch?" Ydi, wir: defnyddiol ac angenrheidiol. Pwy ohonom ni na chroesawai ei gywiro, os yw hynny'n gwella ein Cymraeg\Saesneg ni? Crefftwyr ydym, a gorau inni hogi ein gramadeg, ein cystrawenau, ein troeon ymadrodd, a gweddill ein hoffer ni. Mae cryn angen cywiro fy Nghymraeg innau: ond y diwrnod y gwrthodaf feirniadaeth deg yw'r diwrnod y dylwn roi'r gorau i gyfieithu. Amheuaf a ddylai'r neb sy'n ofni beirniadaeth deg fentro i gyfieithu o gwbl. A pharthed "ynteu": 'rydym yn ei ddefnyddio, ar lafar ac yn ysgrifenedig (gan gynnwys yr e-bost) yn feunyddiol, os yn anymwybodol. "Be' gym'rwch chi? Te 'ta coffi?"
|