Fel y dwedais i yn fy neges wreiddiol, ro'n i'n amau y byddwn i'n cael fy
nghywiro! Bosib mai'r ffaith mai gwrywaidd ydi'r gair 'anrheg' wedi bod i mi
erioed sy'n gwneud i'r treiglad swnio'n rhyfedd i'm clust i - anrheg
bach/mawr/da y byddwn i'n ei ddweud yn reddfol.
Er, dwi'n cofio codi'r ffaith mod i'n meddwl bod 'Canolfan Gwaith' yn
anghywir gyda rhywun flynyddoedd yn ôl, a'u hesboniad oedd nad ansoddair
oedd 'gwaith'! Dwi'n dechrau mynd yn hollol 'conffiwsd' erbyn hyn....!
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 14 January 2011 09:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
Mae'n ddrwg gen i ailgodi hyn ond, hyd y gwela i, dyw'r "rheol" y soniodd
Rhian amdani isod ddim yn dal dŵr.
Beth am "lori ludw", "rhaw dân", "siop gig", "llwy bwdin"?
Mae Rhiannon Ifans yn trafod y mater yn glir yn y Golygiadur, tud 380-386
|