Carolyn wrote:
> Os meddyliwch chi am 'anrheg dda' ac 'anrheg p/ben-blwydd' - i fi, mae
> 'na wahaniaeth bach rhwng y gwaith mae'r 'da' yn ei wneud a'r gwaith
> mae'r 'pen-blwydd' yn ei wneud. Ond bosib mai'r ffaith mai enw yw
> pen-blwydd sy'n gyfrifol am greu'r argraff honno a dw i'n barod i
> dderbyn barn rhai sy'n gwybod yn well. Mae'n amlwg bod cryn ansicrwydd
> ynglŷn â hyn - does ond angen edrych ar enwau adrannau cyrff cyhoeddus
> Cymru/Prifysgolion ac ati i weld nad oes ateb syml.
>
> Carolyn
>
> ------------------------------------------------------------------------
Mae hynny'n berffaith wir, Carolyn. Does yna ddim cysondeb yn y
sefydliad yma, rhwng pethau fel Swyddfa Gyllid / Swyddfa Cyllid, Credaf
mai'r ail sy'n gywir (nes ati?) Ond yn bersonol dw i ddim yn teimlo bod
llawer o ots. Mae pobl yn defnyddio'r glust i dreiglo, heb fynd ati i
ddadansoddi ac felly fydd yna ddim cysondeb llwyr.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|