Yn ôl fy mhrofiad i, anodd iawn fyddai coelio fod testunau deddfwriaeth a dogfennau awdurdodol eraill wedi cael eu bwydo i mewn. Cefais ar ddeall yn y Gweithdy diweddar ar gyfieithu deddfwriaethol nad oes corpws o iaith y ddeddfwriaeth yn bod fodd bynnag. Ond efallai fy mod wedi camddeall. Tybed a fedr rhywun ein goleuo ar hyn?
Ond yn sicr, fe fyddai angen ychwanegu haenau o ieithwedd fwy anffurfiol - datganiadau i'r wasg, hysbysebion, bwydlenni, erthyglau newyddiona nodwedd, ayyb.
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 22 December 2010 11:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol
'sgrifennodd Tim:
>
> Wedi dweud hynny, mae'r syniad o gof cyfieithu i bawb yn syniad eithaf
> apelgar. Mewn gwirionedd, mae arnom ni angen rhyw fath o Garreg
> Rosetta electronig. Un cam hanfodol fyddai bwydo holl ddeddfwriaeth y
> Cynulliad i mewn, gyda Chylchlythyrau, Canllawiau, Cyfarwyddiadau,
> Codau, a dogfennau cyffelyb i ddilyn.
O'n i'n meddwl mai dyna oedd wedi digwydd gyda Google Translate a dyna pam hefyd pam nad yw'n delio'n dda iawn gyda testun mwy anffurfiol dwi'n cymryd. Mae angen fwy o destunau dwyieithog o iaith bob dydd yna i wella y cyfieithiad.
Mi fydd technoleg cof gyfieithu dal i ddatblygu ac o leia mae Google wedi ei wneud e yn y ffordd iawn, drwy gyfieithu ystadegol (neu y ffordd orau ar hyn o bryd beth bynnag nes i rywun ddatblygu meddalwedd deallusrwydd artiffisial sy'n ddigon pwerus).
Mae'n broblem arall ac ar wahan os yw pobl yn defnyddio'r dechnoleg ar gyfer cyfieithu testun ffurfiol - yn y gorffennol fe fyddai rhai pobl wedi cyfieithu arwydd drwy fynd drwy eiriadur yn cyfieithu air am air.
Allwch chi addysgu ond ddim stopio unrhyw unigolyn i wneud hynny.
Mae angen i Fwrdd yr Iaith neu'r Comisiynydd Iaith arfaethedig fynd ar ol unrhyw gwmniau mawr neu gyrff cyhoeddus. Er enghraifft Cyngor Torfaen - air blynedd ar ol cael gwared o wefan ddwyieithog er mwyn lansio un saesneg-yn-unig, mae nhw dal i gynnig Google Translate fel ffordd 'hawdd' o gynnig gwefan Gymraeg
http://www.torfaen.gov.uk/Cymraeg.aspx
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|