Annwyl bawb,
Hoffem wahodd holl aelodau'r cylch termau i'n cynhadledd "Cyfieithu
Technegol a'r Economi Ddigidol" ym Mhrifysgol Bangor ar Ionawr 14,
2011. Mae'n gynhadledd ar y cyd rhwng prifysgolion Bangor ac Abertawe,
yn dilyn cynhadledd lwyddiannus Medi 2010. Agorir y gynhadledd yn
swyddogol gan y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.
Am ragor o fanylion ac i gofrestru ar gyfer y gynhadledd, ewch i
http://www.catcymru.org/wordpress/?p=13043
Yn gywir,
Delyth Prys
----------------------------------------------------------------
This message was sent using IMP, the Internet Messaging Program.
|