> Telerau ac amodau defnyddio gwefan. Angen iddynt fod yn ddealladwy i
> bobl gyffredin.
>
> "Neither we nor any third parties provide any warranty ..."
>
> Ydi hi'n iawn dweud "Nid ydym ni na neb arall ...." - neu a oes rhaid
> s?n am "drydydd parti"?
Mi fyddai 'neb arall' yn gallu cyfeirio at unrhyw un y byd. Dwi'n amau
fod trydydd parti yn cyfeirio at unrhyw gyflenwyr sydd ynghlwm a'r
wefan.
Ydi'r 'gwarant' yn cyfeirio at rhywbeth penodol fel argaeledd,
hygyrchedd neu cynnwys y wefan?
Er enghraifft fe fydd gwefan gan gwmni neu corff yn dibynnu ar
feddalwedd penodol neu gwmni arall a ddatblygodd wefan. Mi fydd y
gwefan yn dibynnu ar weinydd wedi ei ddarparu gan gwmni arall. Efallai
fod peth o gynnwys y wefan yn cael ei fwydo gan wefan arall, yn
cynnwys hysbysebion neu adran newyddion. Mi fyddai rheina i gyd yn
ddarparwyr 'trydydd parti'.
|