Helo Sian,
Ar wefan Cyngor Sir Powys welais i - Y Begwyn
Mae’r Teithiau i’ch denu, sydd wedi’u trefnu gan Dîm Gwasanaethau Cefn Gwlad
Cyngor Sir Powys, yn gyfres o deithiau cerdded o amgylch y sir. A bydd y
daith nesaf yn cael ei chynnal ar ddydd Sul 5 Gorffennaf ger Castell-paen.
Bydd ‘O Amgylch y Begwyn’ yn daith hamddenol dros y Begwyn, tir comin sy’n
eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r daith hwylus hon, fydd yn
cymryd tua thair awr, ac sy’n 3.75 milltir o hyd, yn un llawr golygfeydd
gwych.
Dewi
-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Tuesday, November 23, 2010 12:05 PM
To: [log in to unmask]
Subject: The Begwns a Bwlch Hill
Oes rhywun yn gwybod am enwau Cymraeg ar gyfer "The Begwns" (The Begwns:
highland common. This is a 523 hectare hilltop common owned by the National
Trust and situated to the north of the Brecon Beacons National Park) a
"Bwlch Hill" - tua'r un ardal?
Wedi dechrau cyfieithu capsiynau ar gyfer calendr cyn 9 bore 'ma - gan
feddwl y byddai'n job fach hawdd i gychwyn - a dwi'n dal wrthi!!
A dwi'n meddwl mai job am ddim yw hi - gaf i galendr am fy nhrafferth!
Diolch
Siân
|