Tueddaf i gytuno, ynglŷn a'r fater benodol hon yn ogystal â'r egwyddor gyffredinol.
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 13 October 2010 09:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: mash up
O'n i ddim yma ddoe ond -
Os ydi pobol sy'n arfer y grefft o wneud mash-ups wedi dechrau eu galw yn stwnshiau/stwnshys yn Gymraeg, does dim pwynt mynd ati i greu ffurf ffug fel cerddasiad nad oes neb yn y byd go iawn wedi ei ddefnyddio erioed.
Dyna fy ngwerth chwech i!
Geraint
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 13, 2010 12:27 AM
Subject: Re: mash up
> Cytunaf fod safon y Gymraeg yn wael, ac efallai eu bod yn defnyddio
> 'stwnsh' yn wahanol i'r defnydd yn y cyd-destun hwn, ond cyfeirio at y
> ffaith eu bod yn defnyddio 'stwnshiau' yn hytrach na 'stwnshys' oeddwn
> i - ac mae, wrth gwrs, enghraifft arall. Yn bersonol, does dim ots 'da
> fi ai 'stwnshys' neu 'stwnshiau' a ddefnyddir ond mai 'stwnshiau' a
> glywais i cyn hyn.
>
> M
>
> 2010/10/13 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
>> Wedi darllen y dyfyniad o "The Bait" meddyliais, "nid 'stwnsh' yw hyn,
>> ond
>> 'rwtsh'". Wedi ymweld a'r safle a gweld safon Cymraeg y brawddegau sy'n
>> dilyn, nid wyf wedi newid fy meddwl.
>> Ann
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
>> Ualghairg
>> Sent: 12 October 2010 21:46
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: mash up
>>
>> Anna
>>
>> Stwnshiau yw'r lluosog a glywais i a dyna a geir ar y wefan hon,
>> http://www.thebait.co.uk/index.php?page=featured&pageId=72&lang=cym
>>
>> "Adeiladom yr hunaniaeth o amgylch gwahanol fathau o Stwnshiau
>> annisgwyl. Mae'r gyfres o 6 'ident' yn arddangos palet cyferbyniol a
>> gwrthrychau annisgwyl yn cymysgu."
>>
>> ac ar y wefan hon
>> http://www.nonlinemarketing.com/David_Hughes_Pobl_Mewn_Busness.pdf, er
>> bod un enghraifft (yn ol google) o 'stwnshys' a honno ar wefan y
>> Llyfrgell Genedlaethol, byddwn i'n cymryd bod 'thebait.co.uk' yn
>> adlewyrchu'r hyn a ddefnyddir amlaf.
>>
>> Muiris
>>
>>
>> 2010/10/12 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
>>> Aha! Diolch. Yn yr achos yma, cyfeiriad mewn disgrifiad o gyngerdd oedd
>>> o
>> a
>>> chaneuon oedden nhw i gyd felly fedra i 'get awe' efo fo. Tybed allen
>>> nhw
>>> gael lluosog stwnsh i'w wneud yn fwy defnyddiol (hy ei ddefnyddio fel
>>> enw
>> ar
>>> ei ben ei hun heb orfod ychwanegu caneuon ne fideos etc) - stwnshys (ar
>>> batrwm nyrsys)? Wedyn mi fasa'n ateb y diben yn basa?
>>>
>>> Anna
>>>
>>> 2010/10/12 Sian Esmor <[log in to unmask]>
>>>>
>>>> Helo 'na.
>>>>
>>>> Mae'n debyg bod 'mash up' yn gallu cyfeirio at 'stwnshio' mewn sawl
>>>> cyfrwng, nid dim ond cerddoriaeth - h.y. fideos, llyfrau, ac ati. Mae'n
>> dod
>>>> yn fwyfwy cyfarwydd ym myd y we hefyd. O fynd am derm fel 'cerddasiad',
>>>> felly, byddai angen dewis term arall ar gyfer y cyfryngau eraill.
>>>>
>>>> Ym myd opera mae 'na enw am yr union broses, sef 'pasticcio'. Mae
>>>> Geiriadur yr Academi yn ei gyfieithu fel 'clytwaith'.
>>>> Hyn er gwybodaeth.
>>>>
>>>> Sian
>>>
>>>
>>
>
|