'sgrifennodd Andrew Hawke:
> Rydym wedi dewis 'ar lein' a 'pen blwydd' (yn gam neu'n gymwys), gan
> geisio osgoi'r cyplysnod ond pan fydd rhaid ei gynnwys.
>
> Mewn gwirionedd, efallai bod mwy o bobl yn cysylltu'n ddi-wifr erbyn hyn
> nag ar lein, felly gellid dadlau bod y term yn anacronistig!
Mae e wedi newid ystyr yn saesneg ers tipyn ac yn golygu "wedi
cysylltu a'r Rhyngrwyd" (neu beidio). Does dim angen ei newid
felly. Mae'n bosib fod ar-lein mewn rhai amgylchiadau heb fod 'ar y
we' (gan fod y Rhyngrwyd yn fwy na'r We), felly mae angen gwahaniaethu
hefyd.
Dwi'n dueddol o roi prif lythyren ar y We/Rhyngrwyd mewn testun
ffurfiol ond ddim fel ansoddair e.e. porwr gwe
|