Wedi darllen y dyfyniad o "The Bait" meddyliais, "nid 'stwnsh' yw hyn, ond
'rwtsh'". Wedi ymweld a'r safle a gweld safon Cymraeg y brawddegau sy'n
dilyn, nid wyf wedi newid fy meddwl.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 12 October 2010 21:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: mash up
Anna
Stwnshiau yw'r lluosog a glywais i a dyna a geir ar y wefan hon,
http://www.thebait.co.uk/index.php?page=featured&pageId=72&lang=cym
"Adeiladom yr hunaniaeth o amgylch gwahanol fathau o Stwnshiau
annisgwyl. Mae'r gyfres o 6 'ident' yn arddangos palet cyferbyniol a
gwrthrychau annisgwyl yn cymysgu."
ac ar y wefan hon
http://www.nonlinemarketing.com/David_Hughes_Pobl_Mewn_Busness.pdf, er
bod un enghraifft (yn ol google) o 'stwnshys' a honno ar wefan y
Llyfrgell Genedlaethol, byddwn i'n cymryd bod 'thebait.co.uk' yn
adlewyrchu'r hyn a ddefnyddir amlaf.
Muiris
2010/10/12 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
> Aha! Diolch. Yn yr achos yma, cyfeiriad mewn disgrifiad o gyngerdd oedd o
a
> chaneuon oedden nhw i gyd felly fedra i 'get awe' efo fo. Tybed allen nhw
> gael lluosog stwnsh i'w wneud yn fwy defnyddiol (hy ei ddefnyddio fel enw
ar
> ei ben ei hun heb orfod ychwanegu caneuon ne fideos etc) - stwnshys (ar
> batrwm nyrsys)? Wedyn mi fasa'n ateb y diben yn basa?
>
> Anna
>
> 2010/10/12 Sian Esmor <[log in to unmask]>
>>
>> Helo 'na.
>>
>> Mae'n debyg bod 'mash up' yn gallu cyfeirio at 'stwnshio' mewn sawl
>> cyfrwng, nid dim ond cerddoriaeth - h.y. fideos, llyfrau, ac ati. Mae'n
dod
>> yn fwyfwy cyfarwydd ym myd y we hefyd. O fynd am derm fel 'cerddasiad',
>> felly, byddai angen dewis term arall ar gyfer y cyfryngau eraill.
>>
>> Ym myd opera mae 'na enw am yr union broses, sef 'pasticcio'. Mae
>> Geiriadur yr Academi yn ei gyfieithu fel 'clytwaith'.
>> Hyn er gwybodaeth.
>>
>> Sian
>
>
|