Cytunaf fod safon y Gymraeg yn wael, ac efallai eu bod yn defnyddio
'stwnsh' yn wahanol i'r defnydd yn y cyd-destun hwn, ond cyfeirio at y
ffaith eu bod yn defnyddio 'stwnshiau' yn hytrach na 'stwnshys' oeddwn
i - ac mae, wrth gwrs, enghraifft arall. Yn bersonol, does dim ots 'da
fi ai 'stwnshys' neu 'stwnshiau' a ddefnyddir ond mai 'stwnshiau' a
glywais i cyn hyn.
M
2010/10/13 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
> Wedi darllen y dyfyniad o "The Bait" meddyliais, "nid 'stwnsh' yw hyn, ond
> 'rwtsh'". Wedi ymweld a'r safle a gweld safon Cymraeg y brawddegau sy'n
> dilyn, nid wyf wedi newid fy meddwl.
> Ann
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
> Ualghairg
> Sent: 12 October 2010 21:46
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: mash up
>
> Anna
>
> Stwnshiau yw'r lluosog a glywais i a dyna a geir ar y wefan hon,
> http://www.thebait.co.uk/index.php?page=featured&pageId=72&lang=cym
>
> "Adeiladom yr hunaniaeth o amgylch gwahanol fathau o Stwnshiau
> annisgwyl. Mae'r gyfres o 6 'ident' yn arddangos palet cyferbyniol a
> gwrthrychau annisgwyl yn cymysgu."
>
> ac ar y wefan hon
> http://www.nonlinemarketing.com/David_Hughes_Pobl_Mewn_Busness.pdf, er
> bod un enghraifft (yn ol google) o 'stwnshys' a honno ar wefan y
> Llyfrgell Genedlaethol, byddwn i'n cymryd bod 'thebait.co.uk' yn
> adlewyrchu'r hyn a ddefnyddir amlaf.
>
> Muiris
>
>
> 2010/10/12 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
>> Aha! Diolch. Yn yr achos yma, cyfeiriad mewn disgrifiad o gyngerdd oedd o
> a
>> chaneuon oedden nhw i gyd felly fedra i 'get awe' efo fo. Tybed allen nhw
>> gael lluosog stwnsh i'w wneud yn fwy defnyddiol (hy ei ddefnyddio fel enw
> ar
>> ei ben ei hun heb orfod ychwanegu caneuon ne fideos etc) - stwnshys (ar
>> batrwm nyrsys)? Wedyn mi fasa'n ateb y diben yn basa?
>>
>> Anna
>>
>> 2010/10/12 Sian Esmor <[log in to unmask]>
>>>
>>> Helo 'na.
>>>
>>> Mae'n debyg bod 'mash up' yn gallu cyfeirio at 'stwnshio' mewn sawl
>>> cyfrwng, nid dim ond cerddoriaeth - h.y. fideos, llyfrau, ac ati. Mae'n
> dod
>>> yn fwyfwy cyfarwydd ym myd y we hefyd. O fynd am derm fel 'cerddasiad',
>>> felly, byddai angen dewis term arall ar gyfer y cyfryngau eraill.
>>>
>>> Ym myd opera mae 'na enw am yr union broses, sef 'pasticcio'. Mae
>>> Geiriadur yr Academi yn ei gyfieithu fel 'clytwaith'.
>>> Hyn er gwybodaeth.
>>>
>>> Sian
>>
>>
>
|