Annwyl gyfeillion,
Mae yna gynhadledd berthnasol iawn i aelodau'r cylch yn cael ei chynnal
ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Gwener nesaf.
Rhoddaf y manylion isod yng nghorff y testun,
Delyth
Gweithdy Undydd – Medi 24, 2010
Cyfieithu a Meddalwedd Cof Cyfieithu
Ar Fedi 24, cynhelir cynhadledd/gweithdy undydd ym Mhrifysgol Abertawe
ar gyfer cyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr yng Nghymru. Mae’r gynhadledd
yn rhad ac am ddim, diolch i nawdd gan Ganolfan Richard Burton,
Prifysgol Abertawe. Dyma gyfle i ddwyn ynghyd gyfieithwyr,
darpar-gyfieithwyr, cwmnïau’r meddalwedd cyfieithu, cymdeithasau
cyfieithu, llunwyr polisi ac ymchwilwyr.
Ers degawd bellach bu Prifysgol Abertawe yn hyfforddi graddedigion MA
sut i ddefnyddio rhaglenni cof cyfieithu, ond pa faint o gyfieithwyr yng
Nghymru sy’n defnyddio’r meddalwedd hwn? Yn ystod y dydd, cyflwynir dau
bapur a fydd yn ateb y cwestiwn hwn a thrafod y datblygiadau diweddaraf.
Yn sgil y Mesur Iaith, rhagwelir cyfnod o newid yn y diwydiant cyfieithu
yng Nghymru. Dyma gyfle inni oll drafod manteision posib y dechnoleg
ddiweddaraf, ac nid trafod yn unig ond profi’r peth trosom ein hunain.
RHAGLEN
10.00 Cyrraedd, cofrestru, coffi (Café West, Tŷ Fulton), ynghyd â
chyfle i gwrdd â chynrychiolwyr y cwmnïau meddalwedd
10.30 Gair o groeso – y Dirprwy Is-ganghellor Iwan Davies, sy’n
gyfrifol am bolisi iaith Prifysgol Abertawe (Darlithfa K, Adeilad Faraday)
10.40 ‘Cyfieithwyr Cymru a Thechnoleg Iaith: Golwg ar Ganlyniadau
Holiadur Diweddar’ – Gareth Watkins, Prifysgol Abertawe
11.10 ‘Trosolwg o Brosiect CAT Cymru: Cyfieithu â Thechnoleg’ – Delyth
Prys, Prifysgol Bangor
11.40 Panel trafod; Tudur Hallam (cadeirydd - Academi Hywel Teifi);
Elizabeth Hunter (uwch-gyfieithydd, cwmni cyfieithu Prysg), Elin Meek
(cyfieithydd llawrydd); Geraint Wyn Parry (prif weithredwr, Cymdeithas
Cyfieithu Cymru); Mair Parry-Jones (pennaeth gwasanaeth a chofnodi
seneddol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru), Meinir Pritchard, (pennaeth y
gwasanaeth cyfieithu, Llywodraeth Cynulliad Cymru); Lowri W. Williams
(arweinydd uned safoni termau a chyfieithu, Bwrdd yr Iaith Gymraeg)
12.45 Cinio (Café West, Tŷ Fulton)
1.45 Cyflwyniadau meddalwedd cof cyfieithu: Lowri Roberts, Wordfast;
Aaron Caruso, SDL – Trados; Blandine Loze, Atril (DeJaVu) – (Darlithfa
K, Adeilad Faraday)
2.45-4.15 Gweithdai meddalwedd cof cyfieithu; cyfle i ddefnyddio’r
meddalwedd cyfieithu (Adeilad Keir Hardie)
TREFNWYR
Trefnir y gynhadledd ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol
Bangor. Gweler:
Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe,
(http://www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi)
Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor (http://www.bangor.ac.uk/ar/cb)
Mawr ddiolch i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru am ei chymorth parod wrth
hysbysebu’r gweithdy, ac i bob un o’r siaradwyr ar y panel trafod.
Diolch i gynrychiolwyr y cwmnïau am ddod yma i gyflwyno eu rhaglenni
cof cyfieithu.
TROSODD/I LAWR
Bydd cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn ystod y bore
ar gyfer aelodau di-Gymraeg o’r gynulleidfa. Bydd rhai o gyflwyniadau’r
cwmnïau meddalwedd drwy gyfrwng y Saesneg.
Os am fynychu’r gweithdy hwn, anfonwch air at Dr Tudur Hallam, cyn
gynted â phosibl [log in to unmask] os gwelwch yn dda.
TREFNIADAU CINIO
Trefnir cinio ar gyfer y cynadleddwyr yng nghwmni cynrychiolwyr y
cwmnïau meddalwedd. Cost y cinio yw £10. Gellir talu’r £10 ar y dydd,
ond rhaid nodi ymlaen llaw os ydych am ddod i’r cinio. Fel arall, mae
sawl caffi a ffreutur ar y campws. Os ydych am fynychu’r dydd cyfan, ac
eithrio’r cinio, cofiwch fod angen ichi hefyd gofrestru ymlaen llaw.
Wrth gofrestru drwy e-bost a wnewch chi nodi’r canlynol, os gwelwch yn dda?
MANYLION COFRESTRU
Enw Llawn :
Enw’r Cwmni, Cyflogwr (os yn berthnasol) :
Cinio (£10 i’w dalu ar y dydd): Os gwelwch yn dda / Dim diolch
Unrhyw anghenion penodol ar gyfer cinio (bwyd, neu unrhyw beth arall):
CYRRAEDD A PHARCIO
Dylai pawb barcio, os gwelwch yn dda, oddi ar y campws yn y Cae Hamdden,
sydd ddeng munud ar droed o’r campws, ac yn cosio £2. Gweler
cyfarwyddiadau a map o’r campws yma. Tŷ Fulton yw’r prif adeilad ar
ganol y campws, y tu ôl i’r lawnt a’r brif fynedfa. Gweler y map. Os nad
yw’r cyswllt uchod yn gweithio, gweler yr atodiad arall.
|