On 27/07/2010 09:13, Rhian Jones wrote:
> Oes yna air Cymraeg sy'n cael ei ddefnyddio am 'pings' a 'pinging' wrth
> sôn am flogio?
Mae'r ddau derm yna'n dermau y mae meddalwedd blogio WordPress yn ei
defnyddio ar gyfer nodweddion penodol system WordPress.
Mae gan WordPress nodwedd sy'n galluogi i ddefnyddiwr blog WordPress
gael gwybod pan fo defnyddiwr blog WordPress arall yn creu dolen sy'n
cysylltu at gynnwys ar ei flog. Un o'r dolenni hyn yw "trackback".
Mae fy nhad wedi cyfieithu WordPress 3 yn ddiweddar, a'r term a
ddefnyddiodd o oedd "dolen i mewn" (a "dolenni i mewn" ar gyfer y lluosog).
Dwi'n meddwl mai "ping" gafodd ei ddefnyddio am "ping" (dydi o ddim yn
cyfateb y union i'r weithred Facebook).
Gyda llaw, os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn WordPress fel platform
blogio/rheoli cynnwys amlieithog, cysylltwch â mi. Dwi wrthi'n creu
deunyddiau sy'n egluro sut i'w osod a'i ffurfweddu er mwyn creu gwefan
dwyieithog/amlieithiog.
Gruff
--
G.Prys [log in to unmask]
|