Faswn i'n tueddu i osgoi cyn-ddioddefwyr - dw i'n meddwl mai holl ergyd
'survivor' ydy osgoi unrhyw ymdeimlad negyddol.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2010 15:32
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: survivor
'goroesi' yn hytrach na 'goresgyn', ie?
goroeswyr?
cyn-ddioddefwyr?
----- Original Message -----
From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 14, 2010 3:08 PM
Subject: survivor
> Yng nghyd-destun oedolion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan oeddent yn
> blant. Rydw i wrthi'n cyfieithu astudiaeth ymchwil ac mae'r gair yn
> codi'n gyson. Mae cydweithwraig wedi awgrymu 'rhywun sydd wedi dod
> trwyddi' ac rydw i wedi defnyddio hwnnw ond mae'n dal i edrych yn
> anghyflawn rywsut. Ar y llaw arall, gan fod y gair yn codi'n weddol aml
> fedra i ddim rhoi 'oedolyn sydd wedi dod trwy gam-drin rhywiol' bob tro.
> Tydi 'goresgyn' ddim yn gwneud y tro oherwydd mae'n awgrymu bod yr
> unigolyn wedi dod dros y profiad.
>
> Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau.
>
> Diolch.
>
>
>
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
>
|