Carolyn wrote:
>
>
> Bore da
>
>
>
> Oes gan rywun awgrym da ar gyfer y 'soft' os gwelwch yn dda. Mae Term
> Cymru'n rhoi 'meddal' - statws 4 - ond fedra'i ddim dod o hyd i
> ddiffiniad o'r 'soft' yn unman. Oes rhywun yn deall be'n union ydy ystyr
> y 'soft'?
>
>
>
> Diolch
>
>
>
> Carolyn
>
Efo'r system newydd arfaethedig lle rydych yn gorfod datgan na fyddech
yn dymuno i'ch organau gael eu defnyddio ar ol i chi farw (opt-out) maen
nhw'n bwriadu cyflwyno cymal lle mae'r meddygon yn dal i orfod trafod
gyda'ch perthnasau os nad ydych wedi mynegi dymuniad i beidio rhoi
organau. Dyna'r 'soft' ond does gen i ddim syniad sut y byddai rhywun yn
cyfieithu hynny i'r Gymraeg.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|