Teimlaf fod rhaid i mi dynnu eich sylw at e-bost sydd newydd fy nghyrraedd gan rywun yn gofyn i mi wneud gwaith cyfieithu iddo. Roeddwn i'n hapus i gael cynnig gwaith i ddechrau, ond wrth edrych yn fanylach ar dôn a geiriad yr e-bost, roeddwn i'n reit amheus mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn enwedig felly gan nad oedd enw cwmni yn unman ar y neges ac mai o gyfeiriad Yahoo yr anfonwyd y neges hon.
Penderfynais 'Gwglo' fanylion y dyn hwn, ac yn wir, cefais wybod mai 'sgam' oedd yr e-bost, e-bost y mae amryw o gyfieithwyr eraill wedi'i chael yn ôl pob golwg. Mae'r anfonwr yn gofyn i chi ateb i gadarnhau eich bod chi'n derbyn y gwaith, ac yna mae yntau'n ateb yn ôl yn gofyn am fanylion eich cyfrif banc chi, i gael trosglwyddo'r taliad am eich gwaith!!
Am fwy o wybodaeth am y 'sgam', ewch i: http://www.dicecarmen.blogspot.com/
Ond dyma gopi o'r neges e-bost isod a gefais i:
Morning,
How are you doing today and can you take a translation job right now,here is the document attached with this email and let me know how much you charge per words.I want it translated from English to Welsh but you should be able to finish in 4 weeks time,awaits your mail soon.
Regards.
Dave Jorden,
160 Scotland Street
Glasgow Lanarkshire
G5 8PL
UK
Meleri Hughes
|