Rwy'n cyfieithu darn am gynhadledd ddeuddydd.
Mae "lunch" ar y ddau ddiwrnod am ddim ond mae angen talu am y "dinner" yng Nghastell Caerdydd ar y noson gynta.
Am wn i mai "cinio" yw'r ffordd gallaf o ddweud "lunch".
Ydi "swper" yn rhy ffwrdd â hi ar gyfer "dinner"? Dw i ddim yn hoff iawn o "pryd nos".
Mae arna i ofn dweud "gwledd" rhag ofn eu siomi nhw!
Fe hoffwn i osgoi "cinio canol dydd" a "cinio nos" os oes modd.
Unrhyw syniadau?
Diolch
Siân
|