'Rwyf wedi cael anhawster wrth anfon negeseuon heddiw, felly mae'n bosibl na
chyrhaeddodd y neges isod.
Ann
-----Original Message-----
From: [log in to unmask] [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 18 June 2010 16:00
To: 'Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary'
Cc: Duncan Brown; Twm Elias
Subject: RE: bog / marsh
Byddai imi drio egluro popeth yn golygu imi fynd i'r gors fy hun, rhwng
"fens" a "carrs" ac "alder swamps" a "mires" ac ati. 'Rwy'n anfon at Duncan
i ofyn a ydy o'n gwybod pryd bydd y rhestr ar gael.
O ran rich-fen, ni welaf fod y fath beth yn bod; mae'n swnio fel gwall am
"rich fen", e.e. cors galchog sy'n llawn o rywbeth neu gilydd.
Dyma gwpl o enghreifftiau, gan gofio bod y rhestr yn cynnwys cannoedd o
dermau a bod rhaid iddynt fod yn benodol iawn, ac yn gyson a'i gilydd, i'w
defnyddio gan wyddonwyr, yn hytrach nag mewn sgwrs bob dydd.
Yellow saxifrage rich fen - Cors galchog gyfoethog tormaen melyn y mynydd
Russet sedge rich fen - Cors galchog gyfoethog hesg llwytgoch
Peidiwch a gofyn imi roi'r dadlau o blaid unrhyw derm. Nid fi a'u
dyfeisiodd. Mae 'na gyflwyniad sy'n egluro rhai o'r penderfyniadau, ond
'rwy'n siwr na ddylwn i ryddhau pethau fel 'na heb ganiatad y cwsmer.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
Sent: 18 June 2010 09:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: bog / marsh
Ann Corkett wrote:
> Mi wnaeth Duncan, Twm a Bruce waith dan gontract yn ddiweddar iawn i
> benderfynnu termau ar gyfer nifer fawr o gynefinoedd a rhestrir yn y
> Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC):
>
> bog – mignen
>
> marsh – cors
>
> swamp – siglen
>
> Ann
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of
> *Siân Roberts
> *Sent:* 17 June 2010 17:52
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* bog / marsh
>
>
>
> Dyma fi eto.
>
>
>
> A oes gwahaniaeth pendant rhwng y ddau air hyn yn y Gymraeg?
>
>
>
> Mae'r dewisiadau a gynigir yn debyg iawn yn y geiriaduron.
>
>
>
> A bog is a wetland type that accumulates acidic peat, a deposit of dead
> plant material.
>
> A marsh is a type of wetland, featuring grasses, rushes, reeds, typhas,
> sedges, cat tails, and other herbaceous plants (possibly with
> low-growing woody plants) in a context of shallow water.
>
> A marsh is different from a swamp, which has a greater proportion of
> open water surface, which is generally deeper than a marsh
>
> A bog can be referred to as a swamp while a marsh technically can not.
> Also the acidic waters of a bog distinguish it as being different than a
> marsh.
>
>
>
>
>
> Diolch
>
>
>
> Siân
>
>
>
Ann,
Lle mae 'fen' yn ffitio i mewn? Mi wnes i holi'n ddiweddar am y gair
'rich-fen' ond wnaeth neb ateb. Soniodd cydweithiwr bod Asiantaeth yr
Amgylchedd yn defnyddio 'ffen' am 'fen' ac ar ol edrych ar y we mae'n
ymddangos bod yna wahaniaeth rhwng 'fen' a 'marsh'. Eto ar ol edrych ar
rai dogfennau Cymraeg ar y we sylwais fod y gair 'cors' yn cael ei
ddefnyddio'n aml am 'fen' e.e. corsydd Môn/Llyn / Anglesey/Llyn fens.
Byddai'n ddiddorol gwybod beth oedd penderfyniad Bruce, Duncan a Twm.
Diolch
Sylvia.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--------------------------------------------------------------------
myhosting.com - Premium Microsoft® Windows® and Linux web and application
hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
|