> Oes rhywun wedi dod ar draws 'geo-tagging' - yng nghyd-destun archifau a
> chynllun dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad 'Archifau Arloesol'. Dw i'n
> deall y syniad a'r hyn sy'n cael ei wneud ond methu meddwl am fathiad!
> Wedi gweld un enghraifft o 'geo-tagio' (aaaaach!) ac mae ymateb y cwsmer
> i hwnnw wedi bod braidd yn bigog!
'nodi lleoliad' yw e yn y bon, er fod 'tagiau' yn cael eu ddefnyddio
ar flogiau ac ati fel metawybodaeth ar flog ayyb.
Y broblem wedyn yw beth i ddefnyddio am 'geolocation'. Mae 'lleoli'
yn rhy amwys falle. Mae'n anodd peidio meddwl am yr ateb hawdd -
geo-leoli, geo-dagio, geo-dargedu (sydd allan yna'n barod).
|