Diolch Claire
Na - doedd neb wedi ateb.
Ro'n i wedi gweld "adfyfyrio" mewn rhyw eirfa ond ei weld braidd yn
jargonllyd - fel "arsyllu" aballu.
Beth yw swyddogaeth yr "ad" tybed?
Diolch
Siân
On 1 Ebrill 2010, at 09:12, Post wrote:
> Dwi ddim yn siŵr a oes unrhyw un wedi ateb yr ymholiad hwn, felly
> dyma fy nghyfraniad i.
>
> Hyd y gwn i, ym maes addysg, 'adfyfyrio' a ddefnyddir am 'reflect/
> reflection' ac 'adfyfyriol' am 'reflective' lle mae angen ansoddair.
>
> Claire
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
> Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 30 March 2010 20:42
> To: [log in to unmask]
> Subject: reflective circle/diary
>
> Mae'r reflective circle/diary yn rhan o'r drefn Datblygiad
> Proffesiynol Parhaus.
>
> Mae gennych chi gylch a gwahanol saethau'n pelydru ohono fel haul
> gyda chwestiwn ar gyfer pob saeth, Pwy? Beth? Lle? Pryd?
> Disgwyliadau? Pam? Sut? - i chi gael meddwl beth rydych wedi'i
> ddysgu, mae'n debyg.
>
> Tudalen â rhyw bedwar cwestiwn tebyg yw'r "dyddiadur".
>
> Cylch myfyriol 'ta Cylch myfyrio ?
> Dyddiadur myfyriol 'ta Dyddiadur myfyrio ?
|