Efallai ym McDonalds, ond os yw'n cynnwys lleoedd fel Harvester, Cafe Rouge a La Tasca, mae pobl yn mynd yno i eistedd i lawr a chael pryd tri chwrs, fel maen nhw mewn bwytai annibynnol.
Claire
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn
Sent: 07 April 2010 11:15
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: retail catering
Ai'r un peth sy'n gyffredin i'r rhain i gyd yw bod rhywun yn gallu cael
bwyd/diod yn sydyn/ar frys?
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Post
Anfonwyd/Sent: 07 Ebrill 2010 11:11
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: retail catering
Y peth yw, nid dim ond takeaways yw'r maes hwn, mae'n ymddangos. Mae'n
cynnwys "coffee and fast food chains and even branded restaurants and pubs",
h.y. Starbucks, Caffe Nero, Costa Coffee, McDonalds, KFC, Harvester ac ati,
lle mae pobl yn eistedd wrth fwrdd yn y siop, y bwyty neu'r dafarn i fwyta.
Ydyn nhw'n golygu 'arlwyo i'r cyhoedd' h.y. yn hytrach nag arlwyo mewn
ffreuturau ysgolion, colegau, ffatrïoedd ac ati?
Claire
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siân
Roberts
Sent: 07 April 2010 11:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: retail catering
Diolch Melanie. Wnes i feddwl am hynna - ond mae bwydydd parod yn
gallu golygu "ready meals" sydd ddim, mewn gwirionedd, yn barod i'w
bwyta.
Fe gawson ni drafodaeth ar hyn o dan "fast food" a "take-away food"
rai blynyddoedd yn ôl ond dw i ddim yn meddwl bod cytundeb bryd hynny.
Soniwyd am "cludfwyd" ond dw i ddim yn hoff ohono - mae'n swnio fel
gair gwneud ac yn annhebygol o gael ei ddefnyddio gan bobl.
Soniwyd am "pryd stryd" hefyd. Dydi hwnnw ddim yn swnio cweit mor
ffuantus â "blwch llwch" a "ffôn lôn" - ond dw i ddim yn meddwl ei
fod yn hollol addas ar gyfer "retail catering"
On 7 Ebrill 2010, at 10:34, Melanie Davies wrote:
> Gwerthwyr bwyd parod?
>
> --------------------------------------------------
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 07, 2010 10:26 AM
> To: <[log in to unmask]>
> Subject: retail catering
>
>> "Well, the term "retail catering" might sound a bit confusing, but
>> it needn't be. Broadly speaking, it covers a lot of today's
>> popular, grab-and-go or affordable concepts, including sandwich,
>> coffee and fast food chains and even branded restaurants and pubs.
>> You'll find them everywhere from airports and motorway service
>> stations to shopping malls, leisure centres and even high streets
>> - in fact, anywhere with a large volume of customers."
>>
>> O diar!
>> "mannau gwerthu bwyd cario allan" ?
|