Ydy hyn yn olygu ei fod o'n bwriadu i'r cor ganu'r gerdd Gymraeg i'r un
gerddoriaeth? Nid yw dod o hyd i gyfieithiad o anghenraid yn mynd i fod yn
ddigon. Mae cyfieithu cerdd i'w chanu/ar gyfer cor^/ ?? yn gofyn mwy na
hynny. Mae Bruce wedi cyfieithu darnau i'r eisteddfod flynyddoedd yn ol, ac
mi wnaethon ni gyfieithu rhywbeth ar gyfer perthynas sy'n gantores - mi
olygodd cael pianydd lleol i ricordio'r gerddoriaeth, cymryd oesoedd i
geisio ffitio pwyslais y geiriau Cymraeg i'r nodiadau, mynd at athrawes leol
i wirio ein hymdrech ni - a 'dw i eto i glywed a gafodd y cyfieithiad ei
ganu.
Ond dyna fo, gan nad oes gen i ddim byd i'w gynnig ond "gwaed, chwys a
dagrau", efallai'r peth gorau fyddai rhoi'r cyfieithiad (os oes un ar gael)
i'r arweinydd a'i adael rhyngddo fo a'i bethau!
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
[log in to unmask]
Sent: 10 March 2010 14:49
To: [log in to unmask]
Subject: She is at rest - Oscar Wilde
Tybed a oes rhywun yn ymwybodol o gyfiethiad Cymraeg o'r gerdd 'She is at
rest' o waith Oscar Wilde?
Mae angen y cyfieithiad yn dilyn cais gan arweinydd côr lleol sydd wedi
gosod y geiriau Saesneg i gerddoriaeth ac eisiau'r geiriau Cymraeg yn
ogystal.
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth,
Rhidian
--------------------------------------------------------------------
mail2web.com - Microsoft® Exchange solutions from a leading provider -
http://link.mail2web.com/Business/Exchange
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.733 / Virus Database: 271.1.1/2734 - Release Date: 03/10/10
07:33:00
|