Gwaith ym maes elifion masnach (trade effluent).
Mae gen i frawddegau fel "If your site is discharging trade effluent ..." ac "any discharges from your site".
Mae Termau Asiantaeth yr Amgylchedd yn defnyddio "gollwng" am "discharge", yn cynnwys "Cynllun Codi Tâl am Ollwng" am "Discharge Charging Scheme". Onid yw hyn yn debygol o achosi dryswch rhwng "discharge" a "leak"? Yn rhyfedd iawn, dydi Termau Asiantaeth yr Amgylchedd ddim yn cynnwys y gair "leak".
Mae TermCymru'n cynnwys "cyfraddau gollwng" am "discharge rates", Statws 5.
Byddai'n well gen i ddefnyddio "arllwys" sy'n cyfleu'r elfen fwriadol ac y mae nifer fawr o enghreifftiau ohono ar y we (yn cynnwys Termau'r Cyngor Cefn Gwlad) ond ydi "gollwng" wedi ennill ei blwyf fel y gair 'swyddogol' erbyn hyn?
Diolch
Siân
|