Oes rhywun yn gyfarwydd â'r enw Cymraeg swyddogol am y Bartneriaeth hon?
Mae'r ddogfen fwyaf swyddogol a welaf ar y we yn defnyddio "Partneriaeth Caffael Gogledd
Cymru" ond mae'r paragraff nesaf yn dweud rhywbeth am safon iaith yr awdur:
"Mae’r chwech cynghorau lleol yng Ngogledd Cymru wedi sefydlu'r Bartneriaeth Caffael
Gogledd Cymru, efo’r ystyried sefydlu contractau a chytundeb fframweithiau cydweithio am
amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau a mynnu ar gael i sefydliad cyhoeddus
arall yng Ngogledd Cymru."
Mae 'na enghreifftiau o "Partneriaeth Gaffael Gogledd Cymru" hefyd ond mae'n bosib mai
cyfieithwyr sy'n gyfrifol am hynny. Os mai'r llall sy'n 'swyddogol', a ddylid glynu ato?
Diolch
siân
|