Cyd-destun technegol pan fo gwasanaeth cyfrifiadurol yn rhedeg "at risk". Fe'i cyfieithwyd gan gwmni allanol fel "yn annibynadwy", ond dyw'r arbenigwyr technegol ddim o'r farn bod hwn yn gyfieithiad addas ac maent eisiau barn am "mewn perygl" (neu, wrth gwrs, derm cwbl wahanol). Oes gan unrhyw un sy'n deall y pethau 'ma farn? Tybed a fyddai "dan risg" neu rywbeth tebyg yn datrys hyn?
O ran ystyr, does dim perygl fel y cyfryw ac, er y gallai problem / risg godi, mae'n bosib iawn na fydd y system yn annibynadwy o gwbl.
Diolch yn fawr ymlaen llaw.
Gwen
|