Dw i bendant yn cytuno 'da'r rhai sydd wedi awgrymu 'rhagdalu' neu 'rhagdaledig' gan mai dyna'r hyn sy'n cyfleu'r cysyniad.
Ta beth, nod masnach un o'r cwmnïau ffôn symudol - Vodafone, dw i'n credu - yw 'pay as you go', o'r adeg pan gyflwynwyd ffonau symudol rhagdalu am y tro cyntaf. O ystyried hynny, gellir dadlau dros adael 'pay-as-you-go' fel 'pay-as-you-go'!!
Er y byddai hynny, wrth gwrs, yn hurt!
David Symons
Cyfieithydd / Translator
Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund
[log in to unmask]
029 2067 8246
Dilynwch ni ar Twitter - http://twitter.com/BigCymru
Follow us on Twitter - http://twitter.com/BigCymru
Mae'r e-bost hwn yn gyfrinachol ac fe'i fwriedir at ddefnydd yr unigolyn a enwir arno'n unig. Ni fydd cynnwys y neges hon yn rhwymol ar y Gronfa Loteri Fawr mewn unrhyw ffordd. Mae'n rhaid i farn, gasgliadau, rwymedigaethau contract a gwybodaeth arall yn y neges hon gael eu cadarnhau'n benodol yn ysgrifenedig gan y Gronfa Loteri Fawr i'r graddau y maent yn gysylltiedig â busnes swyddogol y Gronfa Loteri Fawr. Os nad chi yw'r derbynnydd bwriadedig, bydded hysbys eich bod wedi derbyn yr e-bost hwn trwy gamgymeriad a bod defnyddio, lledaenu, anfon ymlaen, argraffu neu gopïo'r e-bost hwn wedi'u gwahardd yn llwyr. Yn ogystal â hynny, gall yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr e-bost hwn fod yn destun datgelu cyhoeddus o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
Sent: 24 Chwefror 2010 09:46
To: [log in to unmask]
Subject: Pay as you go
A dyma hwpo un arall mewn: beth yw'r farn am "dalu ar iws" gan ddilyn patrwm
rhai gweithwyrs dan ddaear oedd yn cael eu "talu ar dasg" (yn wahanol i'r
rhai gafodd eu "talu ar gontract" neu "ar hur")?
O'i blaid: mae'n fyr, mae'n disgrifio be sy'n digwydd, y gallwch ddychmygu y
byddai pobl yn ei ddweud.
Yn erbyn: y gair "iws", na fyddwn i'n ei ddefnyddio fel rheol, ond gan fod y
priod-dull "at iws gwlad" wedi cael sêl bendith 'Idiomau Cymraeg' R.E.Jones,
efallai fod modd cyfiawnhau iws o dan rai amgylchiadau?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned Mai
Anfonwyd/Sent: 23 Chwefror 2010 21:46
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Pay as you go
Er eich bod yn prynu'r credyd o flaen llaw, dydach chi ond yn talu hyn a hyn
am yr alwad allan o'r credyd ar y pryd, wrth ei ddefnyddio.
Eluned
2010/2/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> "Talu yn ôl defnydd" te? Achos y prif gysyniad ydi mai dim ond am y
> defnydd rydych chi'n ei wneud ohono rydych chi'n talu.
>
> Ond o Wglo mae'n ymddangos mai "talu wrth ddefnyddio" (2,100
> enghraifft) a "talu wrth fynd" (1,600) sy'n fwyaf cyffredin.
>
> ----- Original Message -----
> From: Carolyn
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, February 23, 2010 9:46 AM
> Subject: ATB: Pay as you go
>
> Mae 'Talu ar y pryd' yn swnio'n well ond dw i ddim yn hollol siwr ydy
> hynny'n cyfleu'r ystyr - e.e. efo ffôn 'pay as you go' , dach chi'n
> prynu'r credit ymlaen llaw a dweud y gwir - felly dydy'r Saesneg ddim
> yn cyfleu'r peth yn union chwaith. Talu cyn defnyddio mae rhywun mewn
> gwirionedd yn hytrach na thalu bil ddiwedd y mis.
>
> Carolyn
>
>
>
> ________________________________
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Megan
> Tomos
> Anfonwyd/Sent: 23 Chwefror 2010 06:54
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: Pay as you go
>
>
>
> Gwell o lawer.
>
> Megan
>
>> Date: Mon, 22 Feb 2010 22:21:18 +0000
>> From: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Pay as you go
>> To: [log in to unmask]
>>
>> Neu 'Talu ar y pryd'?
>>
>> 2010/2/21 Megan Tomos <[log in to unmask]>:
>> > Neu 'Talu ar y tro' neu 'Talu bob tro' ?
>> >
>> > Megan
>> >
>> >> Date: Sun, 21 Feb 2010 17:53:35 +0000
>> >> From: [log in to unmask]
>> >> Subject: Re: Pay as you go
>> >> To: [log in to unmask]
>> >>
>> >> Dwi'n cael dim trafferth yn defnyddio 'defnyddio'. Ond os am
>> >> rywbeth byrrach, beth am rywbeth fatha 'talu fesul tro'?
>> >>
>> >> Eluned
>> >>
>> >> 2010/2/17 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>> >> > Mae 'talu wrth fynd' yn dipyn llai o lond ceg! Pam arall mae
>> >> > pobol yn deud 'iwsio' yn lle 'defnyddio'?
>> >> >
>> >> > ----- Original Message -----
>> >> > From: CATRIN ALUN
>> >> > To: [log in to unmask]
>> >> > Sent: Wednesday, February 17, 2010 11:16 AM
>> >> > Subject: Re: Pay as you go
>> >> > Cytuno Claire - diolch!
>> >> > ________________________________
>> >> > From: Claire Richards <[log in to unmask]>
>> >> > To: [log in to unmask]
>> >> > Sent: Wednesday, 17 February, 2010 10:50:21
>> >> > Subject: Re: Pay as you go
>> >> >
>> >> > Mae 'talu wrth ddefnyddio' i'w weld hyd yn oed yn fwy
>> >> > poblogaidd. Ac yn gwneud mwy o synnwyr, efallai, wrth sôn am
>> >> > ffonau ac ati?
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Claire
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> >> > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar
>> >> > ran/On Behalf Of CATRIN ALUN
>> >> > Sent: 17 February 2010 10:40
>> >> > To: [log in to unmask]
>> >> > Subject: Pay as you go[Spam score: 9%][Scanned]
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Wedi edrych yn ol drwy'r archif, a dwi ddim yn credu i ni ddod i
>> >> > unrhyw benderfyniad ar hwn y tro dwytha.
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Ai 'talu wrth fynd' sy'n cael ei ddefnyddio bellach?
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Catrin
>> >
>> > ________________________________
>> > Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
>
> ________________________________
>
> Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
_____________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for all viruses by Star. The
service is powered by MessageLabs. For more information on a proactive
anti-virus service working around the clock, around the globe, visit:
http://www.star.net.uk
_____________________________________________________________________
This email is confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. The contents of this message will not be in any way binding upon the Big Lottery Fund. Opinions, conclusions, contractual obligations and other information in this message, in so far as they relate to the official business of the Big Lottery Fund, must be specifically confirmed in writing by the Big Lottery Fund. If you are not the intended recipient, be advised that you have received this email in error and that any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of this email is strictly prohibited. Additionally, the information contained in this email may be subject to public disclosure under the Freedom of Information Act 2000.
|