Diolch yn fawr Ann
Mae'r boi'n Fardd!
Siân
On 16 Chwef 2010, at 13:33, Ann Corkett wrote:
> Cyd-digwyddiad bod chwilio am gerddi y bore 'ma, a finnau newydd
> ddod o hyd
> i'r gerdd y soniais i amdani wythnosau'n ol yn y neges isod. Nid
> cyfieithiad o "What is this life if full of care", ond yr un
> syniad, wedi'i
> fynegi'n hardd iawn.
>
> Ann
>
> Petaen ni'n rhedeg
>
> Petaen ni'n rhedeg o hyd,
> Faint welen ni ar fywyd?
> Hynny bach ohono sy
> Rhwng cael ein deffro a chysgu.
> Rhwng bod y dail yn dod
> A bod y plant yn gwneud cychod,
> A rhwng bod eu cychod ar afon
> A'u bod nhw ar yr eigion.
> Rhwng Ebrill a hanner Mehefin,
> Rhwng y chwedl a'r chwerthin,
> Rhwng bod y mwyar yn ddu
> A'u bod nhw wedi'u bachu.
> Rhwng bwrdd llong y freuddwyd
> A'r ddesg yn y swyddfa lwyd.
> Rhwng dwi'n dy garu di
> A chawod oer y conffeti.
> Rhwng bod ein gwlad yn rhydd
> A'n hiaith yn mynd i'w gilydd.
> Rhwng agor ein llygaid a'u cau,
> Rhwng y wledd a'r angladdau,
> Rhwng bod Heilyn yn gweld y ddôr
> Ac yn codi i'w hagor.
>
> Twm Morys
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 12 January 2010 22:59
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Cerdd W H Davies
>
> Mae rhaid bod 'na un, achos dyfynnir y ddwy linell hon mewn dogfen
> ar y we -
> ond ni welaf rhagor yn unman:
> " Beth yw ein byw ond baich o hyd,
> Os na chawn hoe am drem ar fyd?"
>
> Mae gan Twm Morys gerdd hyfryd sydd yn rhywbeth tebyg mewn llyfryn
> i blant
> (darnau adrodd efallai?) ond ni allaf roi fy llaw arno.
>
> Ann
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garry
> Nicholas
> Sent: 12 January 2010 16:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: Cerdd W H Davies
>
> Oes rhywun yn gwybod am gyfieithiad safonol o gerdd W H Davies-
> What is
> this life? os gwelwch yn dda
> Diolch
> Garry
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 9.0.725 / Virus Database: 270.14.137/2617 - Release Date:
> 01/12/10
> 19:35:00
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 9.0.725 / Virus Database: 270.14.137/2617 - Release Date:
> 01/12/10
> 19:35:00
|