Dw i ddim yn siwr ydw i'n deall neges Tegau - rŷch chi wedi rhoi'ch
£5 ymlaen llaw ac felly chi "biau" y galwadau. Ie?
(Ddrwg gen i am y neges flaenorol - dwi'n siwr y gallai llawer o bobl
gall ddweud "ffôn rhagdaledig" - ond dydi e ddim yn derm sy'n debygol
o gael ei ddefnyddio mewn sgwrs o ddydd i ddydd)
Siân
On 24 Chwef 2010, at 09:43, Andrews,Tegau wrote:
> Dwi'n cytuno gydag Eluned - faswn i'n dweud nad yw 'pre pay' a 'pay
> as you go' yr un peth. Fe allwch chi dalu o flaen llaw am docyn
> cyngerdd, ond dydych chi ddim yn talu wrth i chi ddefnyddio'ch
> sedd. Gyda ffôn, rydych chi'n cael credyd, a dim ond wrth i chi
> ddefnyddio'r ffôn y mae'r credyd yn cael ei wario.
>
> Mae'r ymadrodd 'pay per use' yn bodoli yn Saesneg, ond synnwn i
> ddim bod pobl y byd ffonau symudol wedi dewis 'pay as you go' achos
> ei fod e'n fwy bachog.
>
> Tegau
>
> Eluned Mai wrote:
>> Er eich bod yn prynu'r credyd o flaen llaw, dydach chi ond yn talu
>> hyn
>> a hyn am yr alwad allan o'r credyd ar y pryd, wrth ei ddefnyddio.
>> Eluned
>> 2010/2/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>>> "Talu yn ôl defnydd" te? Achos y prif gysyniad ydi mai dim ond
>>> am y defnydd
>>> rydych chi'n ei wneud ohono rydych chi'n talu.
>>>
>>> Ond o Wglo mae'n ymddangos mai "talu wrth ddefnyddio" (2,100
>>> enghraifft) a
>>> "talu wrth fynd" (1,600) sy'n fwyaf cyffredin.
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>> From: Carolyn
>>> To: [log in to unmask]
>>> Sent: Tuesday, February 23, 2010 9:46 AM
>>> Subject: ATB: Pay as you go
>>>
>>> Mae 'Talu ar y pryd' yn swnio'n well ond dw i ddim yn hollol
>>> siŵr ydy
>>> hynny'n cyfleu'r ystyr - e.e. efo ffôn 'pay as you go' , dach
>>> chi'n prynu'r
>>> credit ymlaen llaw a dweud y gwir - felly dydy'r Saesneg ddim yn
>>> cyfleu'r
>>> peth yn union chwaith. Talu cyn defnyddio mae rhywun mewn
>>> gwirionedd yn
>>> hytrach na thalu bil ddiwedd y mis.
>>>
>>> Carolyn
>>>
>>>
>>>
>>> ________________________________
>>>
>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical
>>> terminology and
>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran
>>> Megan Tomos
>>> Anfonwyd/Sent: 23 Chwefror 2010 06:54
>>> At/To: [log in to unmask]
>>> Pwnc/Subject: Re: Pay as you go
>>>
>>>
>>>
>>> Gwell o lawer.
>>>
>>> Megan
>>>
>>>> Date: Mon, 22 Feb 2010 22:21:18 +0000
>>>> From: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: Pay as you go
>>>> To: [log in to unmask]
>>>>
>>>> Neu 'Talu ar y pryd'?
>>>>
>>>> 2010/2/21 Megan Tomos <[log in to unmask]>:
>>>>> Neu 'Talu ar y tro' neu 'Talu bob tro' ?
>>>>>
>>>>> Megan
>>>>>
>>>>>> Date: Sun, 21 Feb 2010 17:53:35 +0000
>>>>>> From: [log in to unmask]
>>>>>> Subject: Re: Pay as you go
>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>
>>>>>> Dwi'n cael dim trafferth yn defnyddio 'defnyddio'. Ond os am
>>>>>> rywbeth
>>>>>> byrrach, beth am rywbeth fatha 'talu fesul tro'?
>>>>>>
>>>>>> Eluned
>>>>>>
>>>>>> 2010/2/17 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>>>>>>> Mae 'talu wrth fynd' yn dipyn llai o lond ceg! Pam arall mae
>>>>>>> pobol yn
>>>>>>> deud
>>>>>>> 'iwsio' yn lle 'defnyddio'?
>>>>>>>
>>>>>>> ----- Original Message -----
>>>>>>> From: CATRIN ALUN
>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>> Sent: Wednesday, February 17, 2010 11:16 AM
>>>>>>> Subject: Re: Pay as you go
>>>>>>> Cytuno Claire - diolch!
>>>>>>> ________________________________
>>>>>>> From: Claire Richards <[log in to unmask]>
>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>> Sent: Wednesday, 17 February, 2010 10:50:21
>>>>>>> Subject: Re: Pay as you go
>>>>>>>
>>>>>>> Mae âtalu wrth ddefnyddioâ iâw weld hyd yn oed
>>>>>>> yn fwy poblogaidd. Ac
>>>>>>> yn
>>>>>>> gwneud mwy o synnwyr, efallai, wrth sôn am ffonau ac ati?
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>> Claire
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>> vocabulary
>>>>>>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
>>>>>>> CATRIN
>>>>>>> ALUN
>>>>>>> Sent: 17 February 2010 10:40
>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>> Subject: Pay as you go[Spam score: 9%][Scanned]
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>> Wedi edrych yn ol drwy'r archif, a dwi ddim yn credu i ni ddod i
>>>>>>> unrhyw
>>>>>>> benderfyniad ar hwn y tro dwytha.
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>> Ai 'talu wrth fynd' sy'n cael ei ddefnyddio bellach?
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>> Catrin
>>>>> ________________________________
>>>>> Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
>>> ________________________________
>>>
>>> Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
>
> --
> Tegau Andrews
>
> Terminolegydd
> Uned Technolegau Iaith
> Canolfan Bedwyr
> Safle'r Normal
> Prifysgol Bangor
> Bangor
> Gwynedd LL57 2PX
>
> **********
>
> Terminologist
> Language Technologies Unit
> Canolfan Bedwyr
> Normal Site
> Bangor University
> Bangor
> Gwynedd LL57 2PX
>
> Ffôn/ Telephone: 01248 388618
> E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office. www.bangor.ac.uk
|