Y cwestiwn sy'n codi ydi sut mae modd rhoi gwybod i we-borwyr eraill nad yw
cyfieithiadau'r cwmni hwn yn ddibynadwy.
Fel mae'n digwydd, mae yna gyfleustra o'r enw Web of Trust / WOT lle gall
defnyddwyr ddyfarnu gradd i wefan, ar raddfa o bump rhwng 'Very Good' a
'Very Poor', o dan bedwar pennawd (gan gynnwys 'Trustworthiness' a 'Vendor
Reliability'), a chynnig sylw eglurhaol.
O osod WOT yn eich porwr, bydd yn dangos agregiad o sylwadau defnyddwyr
eraill ynglyn â phob gwefan y byddwch yn ymweld â hi.
Dw i wedi dyfarnu gradd a chyflwyno sylwadau ynglyn â'r wefan dan sylw.
Wyn
|