Diolch Siān. Teg dweud falle bod fy neges gynta yn eitha amwys, ac a dweud y gwir fe allwn i fynd ddwy ffordd gyda hyn (fel gyda llawer peth), er mai mynd gyda'r hen ffordd fydde'n braf, wrth gwrs, ond i bawb fod yn yr un llyfr gweddi, fel petai... A lle well i drafod ffyrdd o adfer hen dermau na'r cy;ch termau?
Ond gobeithio nad oedd fy ail neges yn ormod o bregeth, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y tawelwch llethol, bron, a'i dilynodd..! Tybed beth yw barn pobl eraill?
Osian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary on behalf of Siān Roberts
Sent: Mon 11/9/2009 7:54 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffydleman - brown envelope
Mary
Dw i'n meddwl eich bod wedi camddeall neges Osian.
Yn ōl a welaf i, dweud mae Osian bod y dywediadau hyn yn siwr o
ddiflannu cyn hir oni chānt eu dysgu yn yr ysgolion.
Cofion
Siān
On 9 Tach 2009, at 13:36, Mary Jones wrote:
> Osian
> Dydych chi ddim o ddifri, gobeithio! Onid priod-ddulliau sy'n
> gwneud un iaith yn wahanol i iaith arall? Os na, gwell ichi gael
> peiriannau yn eich ysgolion cynradd.
> Mary
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
> Of Rhys Osian (AcadReg)
> Sent: 09 November 2009 13:26
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ffydleman - brown envelope
>
> Pwynt diddorol arall Ann.
>
> O ystyried mai'r unig le y clywais i hyn o'r blaen oedd pan
> ddwedodd fy Nain wrtha i mai 'papur llwyd' a 'siwgwr coch' oedden
> nhw'n ei ddweud "adre'n blant" (hynny yw yn sir Feirionnydd y
> tridegau), mae'n amheus gen i mai dyna rown i, fy hunan, mewn
> cyfieithiad y dyddiau hyn...
>
> Ydw i'n methu? Ydy pobl yn dal i ddweud hynny? I fi mae 'glas' yn
> gallu golygu green, ond brown oedd papur a siwgwr yn ty ni, ac yn
> yr ysgol byddai unrhyw beth heblaw green=gwyrdd, blue=glas,
> brown=brown, red=coch, grey=llwyd, yn chwerthinllyd!
>
> Os ydyn ni am i bobl arfer papur llwyd a siwgr coch (a hyd yn oed
> porfa las), mae angen i athrawon ysgol gynradd gael gwybod dw i'n
> meddwl!
>
> Osian
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
> Of Ann Corkett
> Sent: 09 November 2009 11:24
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ffydleman - brown envelope
>
> Cywiriad. Bum yn meddwl yn Saesneg, mae'n rhaid. "Amlen lwyd"
> dylwn fod
> wedi'i ddweud, nid "amlen frown"!
> Ann
|