Ydi hi'n iawn dweud "siarad synnwyr" am "talking sense"?
Angen cyfieithu strapline "talking sense about sex".
Ro'n i wedi cynnig "trafod rhyw yn synhwyrol" - meddwl bod "trafod" yn ychwanegu rhyw
elfen ychwanegol at y "siarad" - ond mae'r cwsmer wedi trafod gyda chyfeillion o Gymry ac
mae'n well ganddyn nhw "siarad synnwyr am ryw".
"siarad yn gall/synhwyrol" sydd yn GyrA.
Dydw i ddim eisiau gwrthod "siarad synnwyr am ryw" os yw e'n dderbyniol. Mae Gwgl yn
dod o hyd i sawl enghraifft ond, hyd y gwela i, dyfyniad o Cysgod y Cryman - Edward
Vaughan yn siarad â Henri - yw'r unig un 'safonol'. Mae'r lleill yn dod o flogs ac ati a gan
ddysgwyr.
Mae'r cwsmer yn chwilio am rywbeth "snappy' - felly mae "siarad yn synhwyrol am ryw"
mas ohoni.
Fe allwn i gynnig "siarad sens am secs" sbo!
|