O ran rhesymeg - os yw rhywbeth yn cael ei gadw 'in good repair' mae bownd o
fod 'in good condition' faswn i'n meddwl. Ai enghraifft o dwrneiod yn
dyblygu geiriau yw hyn mewn gwirionedd?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Jones,Sylvia
Prys
Anfonwyd/Sent: 18 Tachwedd 2009 17:10
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: in good repair
Geraint Lovgreen wrote:
> peidio â chyfieithu "repair" wyt ti yn hytrach na "condition".
>
> ----- Original Message ----- From: "Jones,Sylvia Prys"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, November 18, 2009 4:37 PM
> Subject: in good repair
>
>
> Mewn cytundeb tenantiaeth
>
> To keep the interior of the property, the internal decorations and the
> Fixtures, Furnishings and Effects in good repair and condition
>
> to keep the drains, gutters and pipes in repair
>
> Ydi'n iawn defnyddio cyflwr da a jyst peidio â chyfieithu condition?
>
> Diolch.
Ia, ti'n iawn, fi sydd wedi ysgrifennu'r ebost yn rhy frysiog. Yn y
cytundeb mae'r geiriau 'in good repair' yn dod ar eu pen eu hunain sawl
gwaith. Mae G yr A yn rhoi 'mewn cyflwr da' ar gyfer 'in good repair'.
Ond os yw'r ddau ymadrodd yn dod efo'i gilydd, fel sy'n digwydd ryw
ddwywaith yn y cytundeb, a fyddai'n iawn i mi ddefnyddio 'mewn cyflwr
da' i gynnwys y ddau. Am fod y peth yn gytundeb cyfreithiol mae gen i
ofn dechrau hepgor geiriau, a meddwl oeddwn i efallai bod gwahaniaeth
cyfreithiol rhwng 'in good repair' and 'in good condition'. Fedra i ddim
yn fy myw feddwl beth fyddai fo chwaith.
Hynny oeddwn i'n gofyn, ond yn garbwl iawn.
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|